Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Danfonwyd y cerdyn post hwn gan William Hughes at ei gyfaill T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Mae'n dangos grŵp o filwyr, y rhan fwyaf ohonynt o Bow Street, y tu-allan i'w llety ym Mhorthcawl. Eistedda William Hughes ar ochr chwith (fel yr ydym yn edrych) y ddynes (merch perchennog y llety); mae ei frawd Tom Hughes ar ei hochr dde. Mae tri chefnder iddynt yn y llun: John Thomas-Davies (yn sefyll, yr ail o'r chwith), George Owen (pedwerydd o'r chwith) a John Lewis (seithfed o'r chwith). Gellir enwi dau ddyn arall o Bow Street, sef Griff Hughes (wythfed o'r chwith) a John James (ar y llawr, ar yr ochr dde). Ar gefn y cerdyn mae William wedi ysgrifennu (o 12 Oxford Street, Y Fenni): Daethom yma heddyw. Nid ydym yn lletya yn yr un lle nawr. Yr ydym yn ddau yma. Y mae Tommy a George yn yr un man. Nid wyf wedi gweld y lleill eto. Dyma ddarlun ohonom yn Porthcawl a'r ferch fel mascot yn y canol. Yr oedd yn chwith gennyf ymadael â Porthcawl. Yr oedd gwraig y tŷ a'r ferch yn llefain fel plant pan ymadawon. Gwrddwn ni fyth â gwell boneddiges, er fod y wraig yma yn ymddangos yn garedig iawn. Gobeithio'r gore. Llawer oerach yma na Porthcawl. W Hughes

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw