Llythyr William Hughes, 15 Mawrth 1915
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif o'r llythyr, a ddanfonwyd o 12 Oxford Street, Y Fenni: Annwyl Gyfaill Mewn atebiad i'th lythyr ac yn unol â'th gais. Dyma fi yn amgau darlun o'r milwr. Dyma un o'r llawer o gymdogaeth y Bow-Street. Os cawn ryddid i fynd adref y Groglith bwriadwn gael ein llun gyda'n gilydd a ti gei un o'r rhai hynny eto os na fyddi wedi croesi drosodd yma cyn hynny. Fe weli yn ôl yr address mai yn Sir Fynwy yr ydym, ardal brydferth iawn yn llawn amrywiaeth. Fe gawn yma ddolydd ffrwythlawn a mynyddoedd cryhog. (sic) Amgylchynir y dref gan gylch o fynyddoedd wedi eu dadgyslltu gan ddyffrynnoedd prydferth. Mae i'r mynyddoedd o amgylch enwau rhyfedd iawn. Gelwir yr uchaf yn "Sugar Loaf" "Blornche" "Holy Mountain". Nid wyf eto wedi cael y pleser i ddringo i'w copâu am fod y dydd yn fyr. Ein gwaith yma yw troi "trenches" ac adeiladu pontydd yn groes i'r afon yma. Er nad wyf fi yn gwneuthur hynny gan y perthynnaf i'r 43rd Signal Company Royal Engineers. Nid ydym yn gweithio'n galed yma eto. Y mae Alser yn cofio atat yn gynnes. Bum dan y doctor heddiw yn cael fy "inoculation". Dyma'r ailwaith a'r tro diwethaf gobeithio. Araf iawn y mae y rhyfel yn mynd ymlaen. Dywedir y byddwn ni allan ym Mehefin. Hyderaf dy fod yn iach fel ag yr wyf innau. Ni fum cystal er pan adewais Garn House. Nid wyf wedi cael cymaint ag annwyd eto. Dy gyfaill ffyddlon W Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment