Llythyr William Hughes, 17 Mai 1915
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill Diolch am dy lythyr diddorol. Cyn y cyrraedd hwn dy law tebyg yw y byddwn dan ganfas ar y maes agored. Ni wyddwn pa le y byddwn. Rhaid i mi addef y bydd yn chwith i ni ar ol cael amser mor braf mewn tai cysurus a gwenau siriol genethod mwyn os bydd rhaid i ni fynd i ryw anghyfanedd le. Rhyfedd y cyfnewidiad sydd i'w weld ymhob man. O ran y bywyd yr wyf yn gael ...... Ond nid dyna fy nymuniad. Ni olyga hyn fy mod yn treulio fy amser yn ofer. Na, yr ym wrthi yn ddiwyd iawn o 7 y bore hyd 5 y nos. Fe gymer fwy o amser i baratoi y RE gan fod ganddynt gymaint i'w ddysgu. Tebyg yw y byddwn ninnau allan cyn diwedd yr haf ac yn gadrawd bur dda. Wel! Mae yr Ellmyn yn ychwanegu beunydd at gyfres ei elynion. Nid wyf yn credu y bu cenedl ag amcanion mor wrthnaws i deimladau dynol. Mae ynddo y Lusitania un o'r erchyslonderau gwaethaf a ddigwyddodd eto. A mae President Wilson yn ddirgelwch i mi. Fe fyddai yn brofiad newydd pe deuit drosodd i weld y milwyr clwyfedig sydd yn cael eu danfon drosodd yma. Mae yn rhaid i'r wlad hon wrth bob dyn cyn diwedd yr ymgyrch hyn. Fel y gwyddost mae Europe yn ferw drwyddi a pha ryfedd. Hyderaf dy fod yn iach. Yr oeddwn adref ryw fis yn ôl ac yr oedd pawb yn dda yno. Hyn gyda chofion cynnes Oddi wrth dy gyfaill W Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment