Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. (Er iddo roi'r dyddiad 1915 ar y llythyr hwn, mae'r cyd-destun yn dangos ei fod wedi'i ysgrifennu ym 1917). Adysgrif: Annwyl Gyfaill Daeth dy lythr dyddiedig Awst 6ed i'm llaw rhyw wythnos yn ôl. Yr wyf wedi bod mor ffortunus â chyfarfod a Goronwy. A hynod o falch oeddwn pan gwrddais ag ef. Clywais fod ei gatrawd yn ymyl rhyw bum milltir oddi wrthyf ac ar fy union yr aethum i'w weld, ac fe'i gwelais amser ciniaw. Ni freuddwydiodd fy mod mor agos. Yr oedd hyn tua bythefnos yn ôl. Edrychai yn iawn - allan oeddynt am ychydig seibiant fel minnau ond gorfod i mi ymadael â'r gymdogaeth honno mewn tridiau ond fe aethum i'w weld bob dydd. Hawdd i ti ddeall ein hapusrwydd pe ond parablu ychydig o Gymraeg. Dywedet dy fod yn awyddus am ddychwelyd i'r hen (wlad?) fel amaethwr. Wel yr wyf wedi penderfynu ar amaethyddiaeth os rhydd y Llywodraeth ychydig help fel y bwriadant. Carwn yn fawr gael tŷ i mi fy hun ac ychydig dir mewn llecyn hyfryd yng Nghymru neu Lloegr. Os arbedir fi o'r gyflafan yma, bwriadaf wneud cartref i mi fy hyn a bywyd syml gwledig ydy fy nelfryd ar hyn o bryd, a gore po gyntaf. Os try pethau allan fel y bwriadaf af i mewn am ychydig dir gan fod amaethyddiaeth yn fater mor bwysig. Charwn i ddim dychwelyd i'r hen ddull o amaethu lle nad oedd cymaint â lle i weithiwr wneud un math o lwyddiant. Hyderaf y bydd i'r Llywodraeth gydnabod hyn yn fuan ac y bydd i bentrefi yr hen wlad flaguro o fechgyn a genethod prydferth. Blwyddyn i heddiw roeddem yn ymladd ar y Somme, o ddiwrnod ofnadwy ydoedd yn fy hanes. Y tywydd yn hollol yr un fath, tarth ar wyneb y ddaear hyd amser ciniaw. Gwyn fyd na welswn derfyn arni nawr. Ychydig obaith sydd hyd y flwyddyn nesaf. Nid wyf wedi cael ond un darlun oddi wrthyt, sef un bach efe yn eistedd ar rywbeth. Gwelais un arall ym meddiant Goronwy. Carwn gael un eto os byddi cystal. Mae darluniau fel angylion allan yma. Byddwn yn edrych arnynt mewn culfach wrthyn ein hunain. Bryd y gwelais anwyliaid ein calon pa rai sydd beunydd yn meddwl amdanom. Rhaid dweud fod llawer yn cwympo y dyddiau hyn na welir mohonynt mwy gan rieni annwyl. Do, fe ddychwelais i'r wlad hon ychydig ddyddiau cyn i Bec a Hannah gael eu gwyliau. Carwn yn fawr eu gweld unwaith eto. Mae Ivan Lewis yn Lloegr beunydd. Rhwydd hynt iddo. Mae llawer o Gatrawdau Cymru wedi cwympo yn ddiweddar yn Flanders. Ysgrifennaf eto mor gynted ag y medraf Cofion fil Will

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw