Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyn y rhyfel roedd Thomas Griffiths o Fangor (a anwyd ym 1881) yn gweithio fel saer maen. Fe gytunodd i wasanaethu yn y fyddin ym mis Tachwedd 1915, er na chafodd ei alw i wasanaethu tan 13 Tachwedd 1916. Gwasanaethodd gyda'r 250th Railway Company Royal Engineers, gan dreulio amser yn Ffrainc. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ar 2 Mai 1919. Mae ei ddyddiadur o 1917 mewn ffurf llythyr estynedig i'w wraig, Margaret. Dyma'r tudalennau sy'n adrodd ei hanes ym mis Rhagfyr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw