Llythyr William Hughes, 16 Gorffennaf 1915
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif o'r llythyr, a ddanfonwyd o 12 Oxford Street, Y Fenni: Annwyl Gyfaill Derbyniais dy lythyr ar y 15fed o Gorffennaf. Mewn tai yma yn lletya hyd yn hyn. Y mae y lleill wedi mynd i Winchester ar y 16th o Fehefin, does ond y Signal Company yma. A mawr yw ein braint gan nad yw y camp y maent ynddo yn ddymunol iawn. Yr ydym ninnau dan orchymyn i ymadael at y lleill. Fe fyddwn am gryn ysbaid eto yr ochr hyn i'r weilgi werdd. Dysgu Telegraphy wyf ar hyn o bryd gan fod yr holl o'r gwaith yn cael ei gario trwy y buzzer i'r trench. Mae gennym i ddysgu marchogaeth motto cycles yn ol y newydd diweddaraf. Y mae yn llawn diddordeb y buzzer yma. Nid wyf wedi bod adref er ys tro bellach. Ni chefais i y fraint o fod adref yn y gymangfa ganu. Yr oedd yr holl fechgyn eraill yno. Y mae yn adeg ddifrifol yn South Wales. Y mae y collier wedi dod allan ar strike. A mae gymaint o wahanol farnau parthed hyn. Nid wyf yn ffafriol iddyn ddod allan nawr. Ond y rhyfedd yw fod y cyhoedd yn disgwyl i'r collier ystyried sefyllfa y wlad tra y gadewir i'r cyfoethog i grabinio (?) yn amser rhyfel. Wythnos hyn y pasiwyd y bill i atal pris y glo tra gwarafunwyd i flawd a phethau eraill godi ond yn ôl gorchymyn y Llywodraeth tra y cafodd y glofeddiannwyr eu rhyddid am 12 mis i godi y pris a fynno. Credaf eto fod achos y collier yn deilwng a pham na rydd y Llywodraeth eu dymuniad iddynt. Mae 50,000 o golliers wedi ymrestru o Sir Forgannwg a faint mae y Miners Federation wedi rhoddi i Prince of Wales fund. Credaf fod rhieni wedi hir aberthu eu plant pam na ddyry y Llywodraeth eu dymuniad iddynt. Mae pwys y rhyfel hon bron yn hollol ar y werin bobl fel bob amser, ac atynt yr apelir am aberth sydd yn gwneuthur bron yr oll tuag at orthrech yr Ellmyn. Drycha i gymdogaeth ni adref. Pwy sydd wedi ymrestru yn y fyddin yno? Y rhai o'r werin. A'r tro diwethaf y bum adref dyma ddywedodd un o blant y gymdogaeth wrthyf. "Beth sydd wedi codi arnoch chi boys y Bow-Street i ymrestru yn y fyddin?" Fel pe bawn wedi ymuno yn fy meddwdod. Fe aeth fel cyllyll trwof. Y sawl a ddywedodd hyn mae ganddo bump o frodyr a does yr un wedi ymuno â'r fyddin. A phe cwrddwn ag ef heddiw fe fyddai y cyntaf i ddweud fod eisiau saethu y collier. Latimer Glanfread oedd yr un wyf yn cyfeirio ato. Hyderaf dy fod yn iach. Dyma ddarlun o'r rhai o'r hen gymdogaeth. Does gennyf ddim ychwaneg Dy gyfaill W Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment