Llythyr William Hughes, 15 Hydref 1917
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill Daeth dy lythyr dyddiedig Awst 26/17 im llaw yn ddiogel a da oedd gennyf gael gair. Y mae yn hanner mis Hydref eto ar ol ymladd caled a'r caletaf a brofais eto. Dywedais wrthyt mewn llythyr os byddai i'r gynnau gynyddu yn eu trymder a'u rhif i'r graddau y mae wedi gwneud yn y misoedd diwethaf yma, wn i ddim be fydd yr offensive yn y Gwanwyn nesaf ac fe gefais flas o hyn.Y mae yr Ellmyn ym meddiant o'r gynnau yn ogystal â ni ac yn gwneud pethau yn bur anghysurus i ni. Eto yr ydym yn ei guro bob tro a cholli ei afael y mae ar y bryniau sydd o gylch Ypres. Gwyn fyd na welir terfyn arno a hynny yn fuan. Mae rhyw swn yn y gwynt y dyddiau ac nid yw sefyllfa fewnol yr Almaen mor gysurus ag y bu. Yr wyf yn cael ychydig seibiant nawr ac oeri mae'r tywydd a ninnau yn ofni'r gaeaf. Hwyrach dy fod wedi clywed bod Alser wedi ei glwyfo yn ei goes ond nid yn ddrwg yn ôl bob tebyg. Newydd ddod allan o'r Ysbyty ac yn ol eto yn Ffrainc y mae ar hyn o bryd. Ydym y mae y milwyr Cymreig yn cael sylw yn y papurau yn ddiweddar fel pob milwr arall ar hyn o bryd. Yn ol addewidion y Llywodraeth bwriadwn daro y gelyn am ei air raids ar Lundain. Hyderaf y byddant gystal a'u gair yn hyn. Nid oes gennyf un amcan ble mae Goronwy ar hyn o bryd. Carwn weld heddwch cyn Nadolig ond ofer yw meddwl ar hyn o bryd. Cofion goreu W Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment