Skip to main content

Llythyr William Hughes, 3 Medi 1917

Disgrifiadau

Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill, Mawr ddiolchaf i ti am dy garedigrwydd tuag atom fel teulu. Deallaf dy fod wedi rhoddi hanner sofren i nhad. Synnet fel mae'r hen law (fel y dywed Wil Bryan) yn gwerthfawrogi hyn. Dywedodd wrthyf yn y llythyr diweddaf am anfon diolchiadau fyrdd i ti. Yr wyf allan o'r ffosydd ar hyn o bryd a ti synni glywed fy mod bron yn yr unfan ag yr oeddwn yr amser hyn flwyddyn yn ôl. Rhyfedd yw gyrfa dyn ond rhyfeddach fyth allan yma. Prysur iawn yw pethau ac fe fyddem yn fwy prysur pe caniatai'r tywydd. Dydd o haf heddiw, golwg gynnes ar y meysydd gyda llafur yn ei staciau. Trigaf ar hyn o bryd mewn tŷ neu yn hytrach mewn sied wedi adeiladu o corrugated iron (fel y gelwir hwn yma) mewn perllan yn un o bentrefydd yma, ac yma y byddwn am rhyw ychydig ac yma fe'n gwthir ni i'r ffosydd drachefn. Nis gwn ddim am yr ymladd yn nhiriogaeth Ypres eto ac hyderaf na welaf hyn. Mae pob un o fechgyn yr ardal wedi bod ar wyliau ond Alser. Bu yn hynod anffortunus yn mynd at Gatrawd newydd pan ddaeth allan o'r ysbyty. Yr wyf wedi gweld amryw o'r Unol Dalaethau allan yma, bechgyn dymunol yn ôl pob tebyg. Hyderaf y bydd iddynt ysgafnhau ychydig ar y baich y gaeaf hwn. Da yw y newyddion o bobman ond Rwsia. Mae milwyr Ffrainc yn gwneud gwaith da yn ardal Verdun. Clod bythol iddynt fydd Verdun a gwarth i'r Crown Prince. Gwelaist fwriad Llywodraeth Ffrainc i wneud ffordd o Alsace i'r môr lle y bu yr holl ymladd. Y ffordd Gysegredig. Hwyrach y byddi yn chwannog i weld y lleoedd hyn wedi y darffo o'r rhyfel. Diau y bydd yn gyrchfa lluoedd o bobl ac fe welant ryfeddodau mewn mwy nag un ystyr. Deallaf fod Goronwy allan yma ar hyn o bryd. Mae Evan Lewis yn Lloegr hyd yn hyn a rhwydd hynt iddo. Carwn fod gyda fe. Danfonwyd y darlun na ddylais i ti. Y mae yr un a fwriadwn yn Bronceiro. Yr oedd Annie yn edrych amdano. Mae hiraeth mawr arnaf am gael treulio noson gyda genethod Bronceiro. Mae geiriau Annie yn fy nghlust o hyd. "Diwc, ffor wyt ti Wil bach, os lawer dydd." So genial fel y dywed y Sais. Wel gyfaill, hwyrach y cawn dreulio noson yn yr hen gwmni. Pan oeddwn yn bloeddio nerth fy mhen. Pe bai ond un noson fe fyddai yn werth trafaelu milltiroedd. Hyderaf y bydd hyn yn fuan. Cofion fil a diolchiadau fyrdd am dy garedigrwydd Will

Owner:
Gwynfor Hughes
Crëwr:
Gwynfor Hughes
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Publisher Ref:
GTJ94187
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2011
Date originally created:
3/9/1917
Gwelediadau:
657
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment