Llythyr William Hughes, 15 Mai 1917
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill Y mae cryn ysbaid er pan yr ysgrifennais i ti. Ond yr wyf wedi bod trwy lawer o brofiadau er Ebrill. Fel y gwyddost y mae y rhyfel wedi cyrraedd hwyrach ei eithafbwynt mewn perthynas ag ymladd ac yr ydym ninnau fel Div wedi bod ynddynt. Y mae yr Ellmyn yn ceisio hyd eithaf ei allu y'n hatal ac y mae hyn yn awgrymu fod yn rhaid iddo naill ai ddianc yr hyn fyddai yn ddinistr arno. Mor bell ag y mae ymladd ar y tir yr ydym wedi cael y gorau arno ac fe wyr hyn ond ei suddlongau sydd yn peri gofid ar hyn o bryd ac hyderaf y bydd iddo fethu yn hyn eto. Mae'r gwanwyn yma yn ei harddwisg gynhefin ac mae'r coed a'r meysydd yn brydferth odiaith eithr anghyfanedd yw i fyny yn nhiriogaeth yr ymladd. Nid oes na choeden yno ac ychydig o flodau. Y mae chwyn yn dechrau glasu'r ddaear ond yn ol yma lle rwyf nawr mae y meysydd mor lân a'r tywydd mor ddymunol. Hwyrach y gwyddost fod un o fechgyn y Bowstreet wedi syrthio, sef Jack Pritchard. Drwg gennyf ddeall hyn. Cefais lythyr oddi wrth Evan Lewis, yr oedd yn credu y bydd allan yma yn fuan. Da gennyf ddeall fod yr unol Daleithiau yn torchi eu llewys. Y mae gobaith o hyn. Yr wyf yn treulio fy amser nawr yn darllen y cyfrolau a ddanfonaist ataf a mawr flas a gaf ohonynt. Y mae pethau yn bur annymunol yn Prwsia ac mae e'n hynod ddiflas pan fo'r Ellmyn yn defnyddio ei holl fyddin i'n hatal er bod hwy yn methu taro ond disgwyliwn glywed rhywbeth o'r Italy yn fuan ac y mae cyffro yn Salonica ac am y Twrc yn y Dwyrain y mae ei obaith yn diflannu fel tarth y borau. Nid wyf yn gwybod dim o hanes Goronwy, a ydyw wedi dod allan yma eto? Wel, nid oes gennyf ragor o newyddion. Hyderaf y byddaf yn abl i'th weld yn fuan. Hyderaf fod dy iechyd yn dal. Yr wyf yn hynod dda allan yma. Cofion fyrdd Will
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment