Llythyr William Hughes, 17 Chwefror 1917
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill, Da gennyf ddyweud wrthyt fy mod wedi derbyn y cyfrolau oddi wrth Jack Edwards ac yn mwynhau eu cynnwys. Ydyw y mae yn ysgrifennydd hyfryd ar ol Shakespeare. Yr wyf wedi darllen Henry V ac wedi cael llawer o flas. Nawr yr wyf yn darllen y Tempest. Yr wyf yn fwy cynefin â'r Play yma. Mae Miranda fel meinwen yr hyfrytaf o'i oll gymeriadau. Hwyrach mae ei glendid fel portread o'r rhyw fenywaidd a hwnnw yn ei ystad dilychwin. Fe garwn ddod ar draws geneth yn debyg iddi. Credaf y byddai yn werth ymladd ychydig er mwyn cymeriad o'r fath. Ond credaf fod 'Imogen' yn Cymbeline gystal â hi. Wel beth yw dy farn am yr Ellmyn heddyw. Y mae wedi herio yr Unol Daleithiau o'r diwedd. Credaf na fydd yr Ellmyn yn llwyddiannus ac fe ddarfydda fel pob peth arall. Yr wyf wedi bod i lawr ac i fyny ychydig ar y front yma yn ystod y mis diweddaraf ond nid wyf wedi bod yn y ffosydd er yr wythfed ar hugain o Ragfyr hyd y 15ed o'r mis hwn. Yr wyf yn awr yn byw mewn dug-out - rhyw fil o lathenni tu ôl i'r Ellmyn. Bywyd annifyr yw eu bywyd y gaeaf hwn. Blinir ef beunydd gan ein ymddangosiad yn ei ffosydd a dygir nifer ohonynt nôl yn aml. Fe ga hyn effaith arno ac hyderaf pan y daw yr ymladd caled y byddwn wedi bwyta yr holl wroldeb a berthyn iddo. Deallaf fod Goronwy wedi bod yn anffortunus neu hwyrach yn ffortunus. Dyna fel y byddwn ni yn edrych ar bethau allan yma. Os bydd i un lwyddo i fynd i Loegr yn fyw y mae yn hynod ffortunus. Y mae Alser Lewis yn yr Hospital a'i gefn yn ddrwg. Credaf fod y gweddill yn iach am a wn i. Da gennyf ddweud wrthyt fy mod yn iach er caleted y tywydd. Yr ydym wedi cael rhew caled er ys tros pum wythnos ond y mae yn dadleth heddyw. Deallaf fod y Loan wedi bod yn hynod llwyddiannus. Disgwyliwn weld yr ymdech yn gorffen yr haf hwn. Byddai yn werth llawer pe gallet weld yr holl waith allan yma a'r modd y mae pethau'n mynd ymlaen. Yr wyf yn treulio deuddeg awr allan o 36 yn yr office yma. Rhyw fath o exchange lle y switchir wires i wahanol leoedd. Nawr mae rhywun yn galw am BD4 ar y busser yma. Mae y fyddin wedi ei chyfuno gyda Telephone Telegraphs. Dyma lines of Communication mae fel gwilym (?) gopa i brofi hyn. Mae message yn dod o'r War Office i'r front line mewn awr - unrhyw newydd o bwys y mae yma. A oes gennyt ryw obaith i ddyfod i'r Cyfandir hwn yn fuan? Hyderaf dy fod wedi gwella ac nad oes dim clefyd yn dy flino ar hyn o bryd. Nid wyf wedi bod adref eto er y disgwyliaf fynd bob dydd. Modd bynnag mae disgwyl i'r ymdrech hon ddiwedd y flwyddyn hon, ac y caf dy weld Apres la Guerre. Dy gyfaill W Hughes I wonder the U Boat get hold of this letter. God help him if ... shall none .... Kill the first Grim.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment