Llythyr William Hughes, 12 Tachwedd 1915
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif o'r llythyr, a ddanfonwyd o D Camp, Avington Park, Winchester East: Annwyl Gyfaill Hwyrach y caret wybod ychydig o'm hanes nawr. Wel! Y mae y Welsh Army Corps sydd yn rhifo dwy fil ar hugain yn ymadael o'r lle hwn rhwng yr eilfed ar hugain a'r seithfed ar hugain o'r mis hwn. Tebyg y byddant wedi mynd cyn y derbyni y llythyr hwn. Nid oes sicrwydd i ba le. Ond yr wyf fi a llawer eraill yn cael ein gadael ar ôl. Yr wyf ar y reserves ac yn debyg o'u dilyn mewn rhyw fis i chwech wythnos. Y fi o'r oll fechgyn y Bow-Street fydd ar ôl. Hwyrach fod rhywbeth yn hyn nas gwn i ddim amdano ond ni fyddaf yn hir cyn cael y cyfle i wneud fy rhan. Deallaf fod Bec a Hannah yn gwneuthur eu rhan nhw yn Birmingham. Rhwydd hynt iddyn ddywedaf fi. Mae pethau yn edrych yn dywyll eto. Mae pob bachgen ieuanc yn gorfod ymuno nawr. Mae yn rhaid iddo ddod pryd y derbyniant chwaneg o wyr priod. Y mae lluoedd yn dod y dyddiau hyn a da hynny. Yr oeddwn yn ymson amdanat rhyw noswaith wythnos hyn, boys y Bow-Street fel y gwyddost. Nid wyf yn credu fod yna un bachgen dibriod ar ôl ym mhentref y Bow-Street nawr. A rhai ohonynt ar faes y gwaed yn barod. Does ond gobeithio y troiant oll yn ôl yn iach i lawenhau ar ôl y goncwest fythgofiadwy, ac y byddi yno pan y byddwn yn dychwelyd i'n llongyfarch y rhai a ddaw. Hyderaf dy fod iach fel ag yr wyf innau. Anfon dy lythyron i'm cartref, fe ddeuant yn ddiogel. Cofion fyrdd Dy gyfaill Will
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment