Skip to main content

Llythyr William Hughes, 5 Ionawr 1917

Disgrifiadau

Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill Daeth y ddau lythyr i law yn ddiogel. Diolchiadau fil am y ffoto hyfryd a ddanfonaist. Yr wyf wedi danfon ychydig lyfrau adref i'w danfon i ti. Hwyrach nad ydynt o fawr werth modd bynnag. Fe'u cefais ynghanol llwch yn un o drefydd Ffrainc sydd wedi ei malurio. Gobeithio y byddi yn ffortunus i gael dyfod i'r wlad hon neu i Europe. Treuliais fy nadolig yn y ffosydd ond yr wyf yn awr allan am fis o amser. Fe gwtoga hyn ychydig o'r gaeaf i mi. Nid wyf wedi bod mor ffortunus a chael mynd adref eto ond yn disgwyl cael mynd cyn diwedd y mis nesaf. Fe gefais barsel oddi wrth eglwys fy mebyd ac yr oeddwn yn falch o'i gael. Diolch yn fawr i ti am garedigrwydd. Hwyrach y byddaf yn falch o dderbyn hatlin rhyw ddydd. Oherwydd y gwyddost y mae pris pethau yn uchel iawn yn Lloegr ond nid yw cyflog fy nhad ddim yn fwy a Tommy a fi yn y fyddin ond yn ceisio gwneuthur ein gorau i'w helpu. Fel y gwyddost y mae mewn oedran a pe byddai iddo ofyn am chwaneg hwyrach mai y sack a gafai. Nid yw ei oedran yn caniatau iddo fynd oddeutu. Methais gael allotment iddo gan ei fod yn ennill. Yr wyf yn rhoddi bob dimai a allaf iddo oherwydd y mae deunaw swllt yn fach iawn yn ôl pris pethau nawr. Yr wyf yn ddiolchgar i ti am dy garedigrwydd. Fe adawaf hynny i ti. Hyderaf na fydd i hyn dy flino. Wel y mae yr Ellmyn wedi methu ein perswadio i'r Peace Conference ac fe fetha mewn modd arall yn fuan ac fe fydd rhaid iddo blygu ei liniau i ni. Wel Blwyddyn Newydd Dda gan hyderu y caf dy weld yn fuan. Yr wyf mewn iechyd ardderchog er gwaethaf y tywydd gwlyb. Y mae Enoch Jones, os oeddet ti'n ei adnabod, yn y fyddin wedi bod yn y Munitions Factory ers dros flwyddyn. Cofion diffuant oddi wrth dy gyfaill Will

Owner:
Gwynfor Hughes
Crëwr:
Gwynfor Hughes
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Publisher Ref:
GTJ94076
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2011
Date originally created:
5/1/1917
Gwelediadau:
704
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment