Llythyr William Hughes, 23 Rhagfyr 1916
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill, Daeth dy lythyr i law heddyw a chyda throad y Post yr wyf yn ei ateb. Fe ddaeth ddeuddydd cyn y Nadolig ond fe fydd ynghanol Ionawr cyn y daw hwn i'th law. Yr wyf wedi symud ychydig eto ond nid ymhell. Bydd i mi dreulio y nadolig hwn yn y ffosydd fel un o'r tanddaearol bethau. Wel, y mae llawer cyfnewidiad wedi cymryd lle er pan yr ysgrifennais i ti. Rumania dan draed y gelyn ond mae y gwaith hwn wedi gwanychu yr Ellmyn fwy na feddyliodd a heddyw y mae yn ceisio ein perswadio i ddod i delerau heddwch ac yn cyhoeddi ei hun yn orchfygwr ac ar y llaw arall yn foddlon talu 'indemnity'. Gall bob dyn weld trwy hwnna. Ond nid wyf yn credu y byddai yn ddoeth arnom wneuthur hyn oherwydd nad yw german Militarism wedi ei goncwerio ac os gadawn iddynt fe ddeuant allan eto fel o'r blaen. Felly ymlaen â'r gart. Fel y gweli y mae Lloegr wedi esgyn i'r goruchafion. Rhyw ddyn rhyfedd yw Lloyd George ac y mae ei ateb i'r Ellmyn yn ddigonol. Drwg gennyf ddeall fod y clefydau hyn yn dy ymosod. Dos o'r lle cyntaf medrot. Rhown innau lawer am fwyd da. Nid pastries ond llaeth enwyn fel y dywedaist. Nid wyf yn cael pastries yma cofia ond cawl Ceredigion a ? a digon o gennin ynddo. Wel y mae Goronwy wedi dod i'r wlad hon. Hwyrach y deuaf i gyfarfod ag ef. Modd bynnag cynt y cwrdd dau ddyn na dau fynydd. Nid wyf wedi bod adref eto ond disgwyliaf y caf cyn y delo y Gwanwyn. Tro diwethaf y clywais oddi cartref ni wyddont ble y mae Dei Taigwynion. Hyderaf y caf dy weld yn fuan. Blwyddyn Newydd Dda i ti a dos o'r lle yna Dy gyfaill diffuant Will Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment