Llythyr William Hughes, 30 Hydref 1916
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill Ychydg eiriau o wlad y gyflafan ofnadwy. Hyderaf dy fod wedi derbyn y llythyron wyf wedi eu hanfon i ti. Llwm wyf innau ar hyn o bryd gan fod y lle yr wyf ynddo'n bur dawel. Da gennyf ddeall dy fod yn awyddus i ymadael a'r lle yna. Nid wyff yn hoffi meddwl dy fod mor bell o'r hen wlad. Byddaf yn falch o glywed dy fod wedi dod i'r cyfandir hwn fel y galli dalu ymweliad yn amlach â'r wlad hon. Credaf na chymer lawer o amser i ti feistroli iaith y Rwsiaid. Ydy y mae yn gyfoethog o lenyddiaeth ddiweddar. Oes, y mae gennyf rai o lyfrau yr awdwyr a awgrymaist. Llyfr ar Social Question sydd gennyf o waith Prince Kropotkin. Prynais ef ryw bum mlynedd yn ol. Ychydig wyf yn gofio o'i gynnwys nawr ac am Leo Tolstoy y mae ef yn gydnabyddus drwy'r holl fyd i rywun a wyr rywbeth am lenyddiaeth. Darllenais rywbryd ei waith ar addysg ac un o'i ffug chwedlau sef Anna Karenina. Os nad wyf wedi anghofio bu y ddau yn garcharorion yn Siberia ac yr oedd Prince Kropotkin yn Llundain yn y rhyfel ond yr wyf yn credu ei fod wedi dychwelyd i ymladd dros ei wlad ar y cytundeb na chymerir ef yn garcharor. Hwyrach fy mod yn anghywir ond y mae gennyf ryw rith gof am hyn. Hyderaf y byddi yn abl i gadarnhau neu wrthddweud hyn. Maddau i mi am fynd trwy y pethau hyn ond nid oes gennyf ond ychydig o newyddion o'r wlad hon. Cefais air oddi wrth Alser Lewis. Yr oedd yn dywedyd wrthyf am ei gofio atat. Carai anfon gair ond ni fyddai ganddo ddim i'w ddweud wrthyt. Felly cymer ei gofion gorau atat. Mae holl fechgyn yr ardal yn holliach hyd y gwn. Fel y gwyddost nid yw newyddion y rhyfel mor llewyrchus ar hyn o bryd eto bydd y cynhauaf hwn i barhau, nid yw ond rhywbeth i dawelu yr Ellmyn. Mae y tywydd yn hynod wlyb a pery llawer o wrthwynebiad i ni yma. Yr wyf mewn lle hynod gyfforddus ar hyn o bryd. Cofion goreu Dy gyfaill cywir W J H
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment