Llythyr William Hughes, 8 Hydref 1916
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif: Annwyl Gyfaill Gyda llawer o bleser y derbyniais dy garedig lythyr. Yr wyf wedi gweld llawer tro ar fyd er pan ysgrifennais ddiwethaf. Yr oeddwn mewn lle tawel ac ychydig o ymladd ffyrnig ond fe'n symudwyd ni i ganol y ffwrnes am ryw bythefnos. Dyma y dyddiau y cymerodd y Division yma ran yn y Big Push Cyntaf o Orffennaf am dri diwrnod . Pedwerydd ar ddeg am pum diwrnod. Fe adawson y lle am chwe wythnos i ddychwelyd ar y pymthegfed o Fedi. Buom i mewn o'r pymthegfed hyd y seithfed ar hugain. Hwyrach yr wythnos fwyaf llwyddiannus er dechreuad yr ymladd brwd. Nawr yr wyf mewn lle hollol newydd na fum ynddo o'r blaen ond oedd yn hynod enwog yr amser yma y llynedd. Trueni ein bod ar fin gaeaf a'r dydd mor fyr a gwaeth na'r cyfan yr oerfel. Ennill yr ydym er gwaethaf pob peth ac ennill wnawn. Mae holl trump cards yr Ellmyn yn mynd. Diddrwg yw y gwaith a wneir ar Zeppo yn ddiweddar. Credaf fod hwn yr ergyd gwaethaf i'r Ellmyn. Ond beth am y 'Tanks'. Mae hwn yn curo yr Ellmyn ac yn peri cryn bryder iddo ac fe bera fwy eto. Gwelais y rhai hyn yn gwneuthur gwaith hynod dda ac yn cymeryd yn agos i dri chant yn garcharorion. Golgfa ryfedd yn hwyr y dydd yw sefyll ar gopa y bryniau yma ac edrych i'r Gorllewin a throi i edrych i'r Dwyrain. Mae hi fel pe baet yn sefyll ac yn edrych ar ryw ddinas fawr a'r golau yn y ffenestri - y Camp Fires - o fewn ychydig filltiroedd i'r ffosydd ac eto y mae Llundain yn dywyll. Dengys hyn mor ddibwrpas y mae ei aeroplaens, ni feiddiant ddod trosodd. Danfonais lyfr i ti ryw fis yn ol. Hyderaf dy fod wedi ei gael. Llyfr Ffrangeg ydoedd mewn perhynas â'r rhyfel. Hyderaf y caf dy weld yn Lloegr cyn yr haf nesaf ac y byddaf innau yn ôl i'th weld. Cofion fyrdd W Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment