Llythyr William Hughes, 20 Awst 1916
Disgrifiadau
Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Adysgrif o'r llythyr, a ddanfonwyd o Signal Section, 64th Infantry Brigade, 21st Division, BEF France: Annwyl Gyfaill Gymerodd dy lythyr fis cyfan i ddyfod drosodd. Daeth i'm llaw ar yr unfed ar bymtheg o Awst. Achwynaist fod y llythyron yn fyr. Gwir! Mae yr awen mor dyn, ac mae wedi ei dynhau eto. Ni oddefir PPCard na unrhyw ddisgrifiad o'r lle yr ydym ynddo. Edrychaf ymlaen at yr amser y caf dreulio oriau yn dy gymdeithas i adrodd fy helynt. Pe bawn lenor hwyrach y gallwn gyflwyno i ti ychydig o fy hanes mewn modd diddanol. Hyderaf dy fod wedi derbyn y llythyr ddanfonais ar ôl bod yn y 'Pig Push' (sic) fel ei gelwir. Bore rhyfedd oedd y cyntaf o Orffennaf wedi bod yn swn y gynnau afrifed oedd poeri angau a dinistr i bob cyfeiriad. Ar fachludiad haul elem i ben rhyw fryncyn rhyw bedair milltir tu ol i'r ffosydd. Gwelem ar y gorwel fflach ar ôl fflach a hynny yn ddibaid am chwe diwrnod. Gwir ei fod yn fwy angherddol ar rhai adegau. (Rhaid addef nad oeddwn i yn y ffosydd ar y cyntaf o Orffennaf ac ni welais Infantry yn mynd trosodd gan nad yw fy ngwaith yn gofyn hynny.) Ond yr awr a hanner ddiwethaf o chwech y bore hyd hanner awr wedi saith nid anghofiaf y fath ddwndwr. Yr oedd yn fore gwlithog llawn o darth oherwydd y gwlith. Esgynnai yr haul fel pelen o dan i entrych yr hyn a lanwai fy enaid â braw. Nid yn gymaint ofn ond rhyw fraw o'r hyn a ddigwyddai mewn ychydig amser pan y byddai y miloedd yn croesi yn gwynebu tân di-baid. Ond yr oedd y dinistr yn gymaint fel yr oedd yn amhosibl hyd yn oed i'r Ellmyn ddal, a gorfod iddo rhoi ffordd er gystal ei (Fachine guns). Tua deg o'r gloch gwelem ryw hanner cant o garcharorion yn dod i lawr o ffosydd. Yr oedd golwg druenus arnynt. Ni chawsant hamdden i ddim er ys chwe diwrnod. Daeth y newydd ein bod wedi cymeryd y ffos gyntaf. Yr oedd llawer o gleifion yn dod i lawr a Red Cross motors yn gwibio heibio yn ddibaid am dri diwrnod cyfan. Fe'n rhyddhawyd ni nos Lun tua 9 o'golch ac fe'n gorchmynnwyd i fynd i'r sidings mewn gorsaf i fynd i ffwrdd y bore canlynol. Erbyn hyn yr oedd yn gwlawio yn drwm a ninnau yn ceisio gwneuthur tro ynghanol y glaw. Bore trannoeth am gwarter i bump ymadawodd y transport ac euthum i gyda'r transport. Fe aeth y gweddill i Division gyda thren; ac yn yr ymdaith yma gwelais lawer o'r wlad brydferth a hynod ddymunol. Tarawodd y frawddeg honno yn y "Two Grenadiers" "Fair land of France was defeated". Dyna i mi ddisgrifiad o France Fair Land. Cefais olwg gyfoethog o wlad wedi ei llafurio a'r llafur yn dechrau lliwio. Synnet y fath effaith gafodd tawelwch y wlad arnaf wedi treulio gymaint o amser yn swn y gynnau. Er hynny fe glywn ychydig o'r swn fel taran yn darfod yn y pellter. Wedi trafeulu rhyw ugain milltir fe gyrhaeddom dref neu yn hytrach bentref helaeth ac ychydig o rhamant Gymru o'n cwmpas. Syrthiais mewn cariad â'r lle ar unwaith. Yr oedd yma ddyffryn cul a chastell ac eglwys yn sefyll ar fryncyn yn edrych dros wlad helaeth a phrydferth. Gyda llaw mae gennyf lyfr o'r ardal hon yn yr iaith Ffrangeg "Les Bords de la Somme" (mae gennyf chwaneg mewn perthynas â llyfrau). Tri diwrnod fu ein hoedl yn y lle hwn cyn symud rhyw bedair milltir yn bellach i bentref bychan a llawer yn llai. Pan yn y lleoedd hyn nid oeddym yn byw mewn tai. Perchenogem ystablau a chysgem mewn unrhyw dy gwag. Gwir fod swyddog yn mynd yno i baratoi a gwybod pa le sydd i bwrpas milwrol. Wn i ddim a ydyw pentrefydd y de yn debyg i'r gogledd. Cyfansoddir y pentrefydd o nifer helaeth o ffermydd ac ychydig o dai i weithwyr a weithia ar y ffermydd hyn ac mewn amryw enghraifft bydd ty y gweithiwr yn y ffald. Felly y mae pentref yng ngogledd Ffrainc yn abl i gynnwys nifer helaeth o filwyr. Gyda hynna o eglurhad af rhagof. Wedi cyrraedd y lle hwn euthum i mewn i ffald heb ofyn caniatad neb. Y peth cyntaf wneir yw chwilio am le cyfforddus i gysgu. Y tro hwn fe ddeuais i a fy nghyfaill ar draws French Market car sydd a chorff llydan iddo ac yn hwn yr hunais bob nos ac ystyriwn yn lle hynod gyfforddus. Gwir ei fod mewn ty gwair. Pedwar diwrnod fu ein hoedl yma a throesom unwaith eto i wyneb y gelyn yn ei holl erchylldra ar y trydydd ar ddeg o Orffennaf. Ond y tro hwn yr oeddem yn berchen llawer o'r tir a feddiannai yr Ellmyn lai na bythefnos cyn hynny ac yr oedd ein swyddfa y tro hwn mewn pentref a berchnogai y gelyn. Yr wyf wedi adrodd hanes y galanas wnaeth ein pelennau i'r pentref hwn yn y llythyr o'r blaen. Rhaid addef fod y gelyn yn gryfach ac ystyfnicach y tro hwn ac yr oedd y maes yn fwy peryglus lawer. Nis gallaf yn fy myw ddisgrifio yr hyn a welais ac a deimlais. Gwedi pum diwrnod ynghanol y brwydro fe'n rhyddhawyd ac wedi deg diwrnod o orffwys fe'n danfonwyd i ran arall o'r front. Y mae y lle hwn yn hynod dawel. Yr wyf mewn tref helaeth sydd wedi ei distrywio i raddau helaeth. Ychydig iawn o drigolion sydd heb ddianc. Nid wyf eto wedi gweld cymaint â thy lle nad yw yr Ellmyn wedi bod yn abl i'w glwyfo. Ychydig yw rhif y tai sydd â tho iddynt ac y maent yn lleihau bob dydd gan fod yr Ellmyn beunydd yn anfon dros eu souvenirs. Mewn cellar wyf yn byw ac yn cysgu. Y mae y to wedi ei ddryllio ac nid oes cymaint â gwydr ar y ffenestri. Ni chaniateir i ni fynd allan y dydd ond trwy ganiatad gan fod aeroplanes yr Ellmyn yn dod trosodd ond nid cyn y daw nag y gorfydd iddo ddychwelyd. Caniateir i ni fod allan am awr i siopa wedi iddi nosi. Wn i ddim pwy swyn sydd mewn dinistr ond mae yn sicr bydd miloedd yn sicr o ddod i'r lle hwn wedi y gorpheno o'r rhyfel ac hwyrach y caret tithau gael cip ar y lle pan y deui am wyliau. Nis gwn ond ychydig o hanes boys y Bow-Street ond eu bod yn iach oll. Y mae un wedi enwogi ei hun sef John Thomas Davies. Y mae yn mynd i gael y Military Medal. Nis gwn am beth eto. Fe ddaw allan yn y papur dyddiol cyn hir hwyrach. Gobeithio y deuwn adref holl yn ddiogel. Yr wyf wedi cael amryw o lyfrau ardderchog trwy gloddio dan gerrig a daear. Fe geisiaf ddwyn rhai ohonynt adref gennyf. Gwell hynny na'u gadael i bydru dan laid. Mae yma lawer o lyfrau crefyddol, a hanes a llenyddiaeth. Deuais ar draws 'Imitation of Christ' yn Ffrangeg ac yr wyf yn penderfynu cadw hwn fel souvenir peth bynnag am y lleill. Carwn roddi rhai ohonynt i ti. Yr wyf finnau yn ceisio dysgu ychydig o'r iaith ond eithaf araf. Hyderaf na flinir mohonot gan feithder hwn. Maddeu ei ffaeleddau a danfon eto gyda throad post. Dy hoffus gyfaill WJ Hughes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment