Skip to main content

Llythyr William Hughes, 18 Mai 1916

Disgrifiadau

Fe wirfoddolodd William Hughes o Bow Street, Ceredigion ym 1914 ac fe wasanaethodd gyda'r Royal Engineers. Yn ystod y rhyfel fe ysgrifennodd cyfres o lythyrau at ei gyfaill bore oes, T I Rees (a oedd gyda'r gwasanaeth diplomyddol, gan weithio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Venezuela). Yn y llythyrau hyn, a ysgrifennwyd gan amlaf yn y Gymraeg, gellir olrhain nid yn unig symudiadau William, ond hefyd sut newidiodd ei hwyliau a sut ddatblygodd ei agwedd tuag at y rhyfel. Annwyl Gyfaill Wedi hir oedi dyma fi yn cymeryd hamdden i anfon gair atat o faes y frwydr. Yr wyf bellach wedi treulio mis ynghanol cyfaneddau y gelyn lle y lluchir magnelau yn ddiarbed. Nid oedd gennyf un dirnadaeth am y rhyfel nes dod i'w chanol. Ond y rhyfeddod yw fel y mae wedi dod yn waith cyffredin. Mae yma gynnau yn ddirif ac mae eu heisiau. Mae y milwyr fel rheol yn lletya mewn pentrefi pa rai sydd yn wag unrhyw le os bydd yno gysgod ac os na fydd ty wel cysgu ar draws rhyw das wair neu wellt. Ddoe yr oeddym yn dychwelyd o'r ffosydd i orffwys rhyw ugain diwrnod rhyw ddeg milltir neu chwaneg y tu ôl i'r ffosydd. Y traffig yn aruthrol. Yr oedd un croesffordd lle y cyferfydd pump ffordd. Gorfu i ni aros awr cyn y gallem fynd heibio yn disgwyl ein tro. Clapham Junction y gelwir y lle. Yr oedd yno Transport Lorries yn disgwyl i fynd heibio rhyw gwarter milltir ar bob un o'r heolydd hyn. Ti weli y fath beth yw rhyfel a hyn ymhob man yr eir iddo nid yma yn unig. Y mae y newyddion yr wythnos hon yn bur addawol. Hyderaf y bydd i'r Rwsiaid i denio ei rhaff fel y gallom gael rhyw gyfle arnynt yr ochr hyn. Credaf fod eu hamddiffynfeydd yr ochr hyn yn gryfach na un lle. Ac fe fyddai yn well gan yr Ellmyn gael ei goncwerio gan bawb na gennym ni. Hyderaf fod concwest ger llaw. Cofion gorau Dy gyfaill diffuant W Hughes

Owner:
Gwynfor Hughes
Crëwr:
Gwynfor Hughes
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Publisher Ref:
GTJ94056
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2011
Date originally created:
18/5/1916
Gwelediadau:
693
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment