Cerdyn post Benny James wedi'i frodio 'Might is Right'
Cerdyn post Benny James wedi'i frodio 'Might is Right'
Disgrifiadau
Ganwyd Benjamin James (a adwaenid gan ei deulu fel Benny) yng Nghas-gwent. Ymunodd ag Ail Fataliwn y Royal Welch Fusiliers yn Nhonypandy; fe drosglwyddodd i'r Royal Engineers i wasanaethu fel cloddiwr twneli, gan fod profiad o weithio dan ddaear ganddo (ac efallai hefyd oherwydd ei fod yn cael tâl ychwanegol o 6 ceiniog y dydd). Danfonodd Benny y cerdyn post hwn wedi'i frodio â'r neges 'Might is Right' at ei chwaer Frances ('Fran'). Lladdwyd Benny ar Ffrynt y Gorllewin ar 19 Ebrill 1916: ni ddaethpwyd o hyd i'w weddillion. Fe'i coffâwyd ar gofeb yn Loos ac ar Gofeb Ryfel Cas-gwent.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment