Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Cofio Cyfraniad 1918-2018.
Mae Cyngor Tref Cricieth wedi derbyn grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw) ar gyfer prosiect Cofio Cyfraniad Cricieth mewn partneriaeth efo Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion Dwyfor a Neuadd Goffa Cricieth. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae plant Ysgol Treferthyr a grŵp o fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor wedi bod yn ymchwilio i ac yn dysgu am gyfraniad Cricieth i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r effaith a gafodd ar y dref, yr ardal a'r bobl. Cawsant ymweliadau llwyddiannus iawn i Neuadd Goffa Cricieth, stiwdio Robert Cadwalader, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, Amgueddfa Lloyd George a Chastell Caernarfon.
Bu'r plant a'r myfyrwyr hefyd yn cydweithio efo'r beirdd a cherddorion Twm Morys a Gwyneth Glyn ac efo'r artist lleol Ffion Gwyn sydd hefyd wedi bod yn cydlynu'r prosiect i greu cyfres o gerddi, arddangosfeydd, gosodiadau a chofebion cyfoes i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r pwyslais ar heddwch i gofio a choffhau cyfraniad Cricieth a'r ardal i'r rhyfel hwnnw. Mae gan Gricieth dreftadaeth unigryw o safbwynt y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r Neuadd Goffa yn gofeb i 49 o unigolion lleol a fu'n ymladd ac a fu farw. Mae llawer o deuluoedd a disgynyddion yr unigolion hyn yn dal i fyw yng Nghricieth a'r ardal heddiw ac efo llawer o hanesion a chofnodion. Roedd Cricieth hefyd yn gartref i David Lloyd George, Prif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ystod ei gyfnod yn Rhif 10 Stryd Downing roedd llawer o Gymry Cymraeg o Gricieth yn gweithio yno ac mae teuluoedd a disgynyddion llawer ohonynt dal i fyw yng Nghricieth a'r ardal heddiw ac efo hanesion ac atgofion unigryw sydd ddim i'w gweld yn y llyfrau hanes arferol. Mae'r rhain i gyd wedi bod yn rhannu eu hanesion, cofnodion, lluniau ac arteffactau mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer arddangosfa arbennig a chofnod digidol i sicrhau nad ydynt yn cael eu colli na'u hanghofio.
Yn ogystal â rhannu cynnyrch y gwaith prosiect mae digwyddiadau Wythnos Y Cofio yn cynnwys:
Cyfle arbennig i goffau'r rheini a gollwyd yn y rhyfel yng nghwmni ser "Hedd Wyn" - rhai ohonynt fydd yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf ers y ffilmio i rannu eu profiadau o fod yn rhan o'r ffilm (1992). Gafodd y ffilm enwebiad am Oscar; mae'n hanes ysgytwol am Ellis Evans, Trawsfynydd, bardd y gadair ddu Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
Darlith ar Gelf Gymreig y Rhyfel Byd 1af. Ar doriad y Rhyfel Mawr roedd Cymru'n hwb o gyfalafiaeth byd eang, yn allforio glo, llechi, dur a masnach llaw-waith i bob rhan o'r byd. Roedd artistiaid o Gymru, fel Augustus John a Christopher Williams, yn enwog a galw mawr amdanynt drwy'r Deyrnas Unedig. Wrth i'r rhyfel gynyddu cawsant hwy a'u cyfoedion brofi erchyllterau brwydron cyntaf modern diwydiannol i'w ymladd ar raddfa gyfandirol. Gwnaethant gynhyrchu rhai o'r delweddau mwyaf cofiadwy o ryfel i ddiweddu pob rhyfel.
Cyngerdd "NO MAN'S LAND': cyfansoddiad o gerddoriaeth gan y basydd a'r cyfansoddwyr David Heyes i goffau diwedd y Rhyfel Mawr. O'i natur yn myfyrio, gyda synnwyr o galled, ond hefyd gobaith am y dyfodol. Mae'r teitlau yn cynnwys 'The Last Poppy', 'When I'm Gone' a 'Passchendaele'. Perfformiadau o waith gan blant Ysgol Treferthyr. Gwyneth Glyn a Twm Morys, darlleniadau o lythyron a ddanfonwyd gan filwyr lleol i deulu a ffrindiau a chanu caneuon o'r cyfnod gan y Starlight Players ac aelodau Prifysgol y Drydedd Oes.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw