Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cricieth- MANTELL PABIAU COCH
Ar ddiwedd y prosiect i goffáu’r heddwch ar ddiwedd y Rhyfel Mawr 1918-2018 penderfynodd y dref i goffáu 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ym 1945. Oherwydd yr ynysu cymdeithasol yn sgîl COFID-19 roedd rhaid gohirio’r gweithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys y te pnawn i’r hen ac ifanc yn y Neuadd Goffa, dadorchuddio mur o babïau crosio ac arddangosfa yn y Stryd Fawr. Serch hynny, bu’n bosib rhannu’r cynnyrch a’r gorchestion drwy fideo o’r holl waith a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar YouTube ar Criccieth Life. Bu hefyd ddarllediad o’r gwaith ar raglen Heno S4C ar Fai’r 8fed. Gwnaethpwyd apêl i’r gymuned am wirfoddolwyr i helpu i droi’r dref yn goch i goffáu 75ain penblwydd Diwrnod VE gan wau a chrosio pabïau. Ysbrydolodd y prosiect drigolyn lleol, Susan Humphries, i greu Gŵn Pabïau, a throdd y 5,000 pabi a wnaed gan dros 150 o wirfoddolwyr yn odre (train) trawiadol i’r wisg. Meddai Liz Saville Roberts A.S.: “Mae’r wraig yn symbol o’r golled a ddioddefwyd gan gymuned gyfan. Yn gwisgo’r Gŵn Pabïau mae hi wedi ei lapio yn y galar y bu raid i gymaint o ferched ei ddioddef.”
Ysgrifennwyd gan Dr. Catrin Jones Clerc y Cyngor Mehefin 2022.
Mae Cyngor Tref Criccieth wedi derbyn gwobr i gydnabod ei gyfraniad arbennig i'r gymuned yn ystod y pandemig Covid-19. Mynychodd y Cyng. Sian Williams, Cadeirydd y Cyngor Tref a Dr Catrin Jones Clerc y Cyngor Tref y 'Digwyddiad Dathlu a Diolch i Wirfoddolwyr' a gynhaliwyd gan Mantell Gwynedd yn Galeri, yng Nghaernarfon, Gwynedd, ar 6 Mehefin i dderbyn y dystysgrif.
Datganiad o’r Sennedd
Yn 2020, cafodd llawer o ddigwyddiadau Dydd y Cofio eu canslo oherwydd Covid-19.
Yn hytrach, daeth trigolion yng Nghricieth, Gwynedd, at ei gilydd i lunio mantell o flodau pabi a gafodd ei harddangos fel rhan o arddangosfa ar y Stryd Fawr i nodi Dydd y Cofio.
Fe wnaeth gwirfoddolwyr o'r gymuned wau a chrosio 5,000 o flodau pabi a gafodd eu hymgorffori yn y ffrog.Mae'r fantell ei hun yn symbol o golli cymuned gyfan ac mae'n arbennig o ystyrlon i genhedlaeth o fenywod a gollodd anwyliaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Gan dynnu ar ddoniau unigolion o bob cenhedlaeth ac o bob rhan o’r gymuned, roedd y prosiect yn un o nifer a arweiniodd at lwyddiant ysgubol Cricieth Creadigol wrth ennill Gwobr Bywydau Creadigol Cymru 2021.Yn awr, bydd Mantell o Flodau Pabi Cricieth yn cael ei harddangos yn y Senedd fis Tachwedd eleni fel rhan o’r digwyddiadau i nodi Dydd y Cofio 2022.
Delweddau:
1. Pam Mayo, Susan Hymphreys, Margaret Rees. Catrin Jones (llun Andy Kime).
2. Diwrnod Cofio'r Neuadd Goffa.
3. Cerddor a Bardd Gwyneth Glyn yn gwisgo'r ffrog (llun Terry Mills)
4. Gwahoddiad i'r Senedd yng Nghaerdydd
5. Dr Catrin Jones gydag Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn y Senedd.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw