Parc Porthceri
Wedi'i leoli mewn dyffryn sy'n arwain at draeth caregog, prynwyd Parc Porthceri gan y teulu Romilly yn 1412. Roedd yn cynnwys Cwm Cidi, pentref canoloesol wedi'i cyfansoddi o bum tŷ a thri arall gerllaw yn 1622. Fodd bynnag, gyda diboblogi, dros amser wnaeth yn y pentref crebachu o ran maint. Cafodd Bwthyn Cliff Wood ei adeiladu yn 1583 gan Owen William, a hwn oedd cartref Ann Jenkin, menyw cafodd ei chyhudd o ddewiniaeth. Ail-adeiladwyd y bwthyn yn 1781 a thua'r cyfnod hwn, adeiladwyd pwll storio wystrys hefyd, yn cael ei saernïo mewn i silffoedd craig y lan.
Dros amser, sefydlodd y teulu Romilly fferm 'fodel', gan adeiladu bythynnod ar gyfer gweithwyr y stad, yn ogystal â stablau a melin lifio. Adeiladwyd y felin lifio tua 1835, ac mae ei muriau'n dal i fodoli heddiw. Yn yr 1890au, adeiladwyd Traphont Porthceri ar gyfer Rheilffordd Bro Morgannwg. Mae'n strwythur carreg o dri ar ddeg bwa 50 troedfedd a thri bwa 45 troedfedd, ac fe'i hagorwyd i draffig yn 1900.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd y parc gan filwyr Prydain ac America i baratoi ar gyfer 'D-Day', gan adeiladu gwrthgloddiau ac amddiffynfeydd. Roedd y Barri yn borthladd a depo storio arwyddocaol yn ystod y rhyfel, ac yn arwain at 'D-Day', cludwyd 15,000 o dunelli o offer a 4,000 o filwyr i Normandi o’r dociau. Ar ôl y rhyfel, defnyddiwyd dôl Porthceri ar gyfer pori garw a chrëwyd coetiroedd newydd.
Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, daeth Parc Porthceri yn safle pwysig i natur ac yn amwynder lleol poblogaidd. Daeth hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol. Heddiw, mae Parc Porthceri yn ardal hamdden boblogaidd i'r Barri. Mae gan ei 220 erw o goedwigoedd a dolydd nifer o lwybrau natur a mannau picnic. Mae yna gaffi a maes chwarae hefyd. Yn 2016, derbyniodd Parc Gwledig Porthceri £63,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn gwarchod gweddillion y felin lifio ac i addysgu ymwelwyr yn well.