Y Barri: Addoldai yr Ardal
Mae llawer o addoldai yn nhref y Barri a’r pentrefi cyfagos, yn gynnwys hen addoldai ac addoldai mewn defnydd. Wrth i boblogaeth yr ardal tyfu'n aruthrol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd adeiladu Dociau'r Barri, bu twf mawr mewn mannau addoli. Yn 1919, disodlodd yr Eglwys yr Holl Saint adeiladwyd yn yr ugeinfed ganrif Eglwys ganoloesol St Nicholas a oedd yn llai fel eglwys blwyf y Barri.
Yn y Barri ei hun, roedd nifer o addoldai, er enghraifft:
Eglwys St Nicholas (Yr Eglwys yng Nghymru; adeiladwyd 1254, ailadeiladwyd 1876, cartref i 6ed Sgowtiaid Môr y Barri ers 1950au).
Eglwys Blwyf yr Holl Saint (Yr Eglwys yng Nghymru; adeiladwyd 1907–08 oherwydd poblogaeth gynyddol yn y Barri, a ddynodwyd yn Eglwys Blwyf y Barri yn 1919).
Eglwys y Santes Fair Forwyn Fendigaid (Yr Eglwys yng Nghymru; adeiladwyd yn 1903–05, yn wreiddiol ar gyfer Addoliad Tractaraidd (Offeren Fawr)).
Eglwys San Helen (Yr Eglwys Gatholig; agorwyd ysgol ar y safle ym 1892, adeiladwyd yr eglwys 1906–07).
Eglwys Gynulleidfaol Windsor Road (Eglwys Ddiwygiedig Unedig; adeiladwyd 1890, ailadeiladwyd 1904).
Eglwys Bresbyteraidd y Barri.
Eglwys Sant Barruc - (man addoli ers claddu Sant Baruc yn 700 OC, ailadeiladwyd yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, cafodd ei ddefnyddio tan tua'r unfed ganrif ar bymtheg).
Eglwys Wesleaidd, Romilly (adeiladwyd yn 1897).
Priordy'r Barri (adeiladwyd yn 1894 gan Urdd Sant Paul).
Eglwys y Bedyddwyr Bethel (adeiladwyd yn wreiddiol fel Eglwys Saeneg y Bedyddwyr Bethel yn 1893, a'i hailadeiladu yn yr 1900au).
Yn yr ardal gyfagos:
Sant Ioan Fedyddiwr, Sili (Yr Eglwys yng Nghymru; yn ôl pob sôn sefydlwyd ym 1093, a ailadeiladwyd yn 1701 ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg).
Eglwys Sant Curig, Porthceri (Yr Eglwys yng Nghymru; eglwys ganoloesol, adnewyddwyd yn 1867).
Eglwys Blwyf Sant Dyfan a Teilo Sant, Merthyr Dyfan (Yr Eglwys yng Nghymru; adeiladwyd ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg).
Eglwys Blwyf Sant Cadog, Tregatwg (Yr Eglwys yng Nghymru; adeiladwyd yn 800 OC).
Eglwys Wesleaidd Tregatwg (adeiladwyd yn yr 1900au cynnar).