Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yr awdur a’r perfformiwr o Gaergybi, Gillian Brownson, sy’n adrodd cerdd sy’n canolbwyntio ar straeon cymysg am y Poniard o’r Iseldiroedd, sef dagr a gedwir yn Amgueddfa Forwrol Caergybi, a dynes o Gaergybi o’r enw Evelyn Hughes a fu’n gofalu am y Poniard, a roddwyd iddi i’w gadw’n ddiogel, am fwy na 60 mlynedd.

---

“Pe bai hanes yn cael ei ddysgu ar ffurf straeon, ni fyddai byth yn cael ei anghofio.”
― Rudyard Kipling.

Rwyf wrth fy modd yn ymweld ag amgueddfeydd. Byddwch bob amser yn clywed Awduron a Storïwyr yn dweud bod straeon, beth bynnag fo’u ffurf, yn ein rhwymo at ein gilydd ac mai dim ond drwy’n straeon cyfunol y gallwn ni ddysgu sut i esblygu. Maen nhw’n iawn wrth gwrs, neu rwy’n credu eu bod nhw, ond mewn amgueddfa rydyn ni’n dechrau deall beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd, yn ymarferol. Os ewch chi i Amgueddfa Forwrol Caergybi, fe welwch fod yna straeon yn llifo o’r hynodion yn y cypyrddau arddangos. Cwpanau tsieini, cyffiau capten, darganfyddiadau o longddrylliadau, siwtiau deifio, rhannau o longau, medalau – gwrthrychau di-rif sy’n ein hanfon ar ruthr i’r byd maen nhw’n dod ohono, fel dim byd arall, gan ein gorfodi i uniaethu, myfyrio, gweld – gan fod rhan gorfforol o’r stori yno o flaen ein llygaid.

Mae Salt, or Evelyn on the Shore yn un stori o’r fath gan ei bod wedi dechrau â dagr yn yr Amgueddfa, neu, yn swyddogol, Poniard Canol-longwr sy’n cael ei arddangos yno. Diolch i ymdrechion haneswyr cymunedol fel Peter Scott Roberts a gwirfoddolwyr eraill sy'n gysylltiedig â'r Amgueddfa, daethom i wybod llawer am berchennog y Poniard, sef Jan Christiaan Van Aller, morwr yn Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd, a laniodd yng Nghaergybi ar ôl i’r Almaen oresgyn yr Iseldiroedd ym 1940, ynghyd â llawer o'i gyd-forwyr o'r Iseldiroedd. Mae ei stori'n haeddu cael ei hadrodd, ond pan ddarganfyddais pwy oedd wedi rhoi'r Poniard i'r Amgueddfa, fe'm gorfodwyd i adrodd ochr arall i'r stori, oherwydd dynes o Gaergybi o’r enw Evelyn Hughes oedd wedi gofalu am y Poniard, a roddwyd iddi i’w gadw'n ddiogel, am fwy na 60 mlynedd.

Gyda chymorth Peter Scott Roberts, fe lwyddais i ddod o hyd i Sue Bugh, merch Evelyn Hughes, neu Eve, a fu farw rai blynyddoedd yn ôl yn anffodus. Ers hynny mae Sue wedi bod yn siarad â mi am fywyd ei hannwyl fam, nad oedd ei bywyd cynnar yng Nghaergybi yn hawdd, ar ôl colli ei thad a’i chwaer fel plentyn. Wedi dweud hynny, tynnodd cymuned Caergybi, a oedd yn gwella ar ôl y Rhyfel Mawr, at ei gilydd a helpu’r teulu i ymdopi. Roedd gan Eve gariad mawr at Borthdafarch a’r blodau gwyllt sy’n tyfu yno ar y clogwyni, ac yn aml byddai’n mynd i’r traeth i eistedd a gwau. Bu’n gweithio’n galed ar wasanaeth y llongau post rhwng Caergybi a Dulyn, a hefyd magu dau o blant fel mam sengl, ar ôl cael ei gwahanu oddi wrth ei gŵr cyntaf. Drwy’r holl galedi, roedd wedi dod yn hoff o’r morwr o’r Iseldiroedd, ar ôl iddo ddod yn gyfeillgar i’w theulu, a chytunodd y ddau i ysgrifennu at ei gilydd pan gafodd Jan ei anfon yn anffodus i Jakarta yn India’r Dwyrain yr Iseldiroedd. Pan ddaeth y llythyrau i ben yn sydyn, tybiodd yr annwyl Evelyn ei fod wedi’i ladd wrth ymladd.

Felly, dyma Poniard Jan, a gyflwynwyd iddo pan basiodd ei gwrs fel cadét ym 1939, yn aros ym meddiant Evelyn drwy gydol blynyddoedd hir ei bywyd. Fe’i cadwodd yn agos ati, a hyd yn oed mynd ag ef yn ei bagiau ar dripiau dros y môr cyn 1965. Dwy ddim yn credu mai gor-ddweud yw dweud bod Eve wedi trysori’r gwrthrych hwn, a sylwodd Sue fod meddwl ei Mam yn aml mewn man arall, efallai’n dychmygu’r hyn a allasai fod pe bai Jan wedi dychwelyd.

Mae’n fy nharo i fod cymaint o fenywod wedi crio oherwydd cariad a gollwyd yn sgil rhyfel. Mae’r gerdd hon yn dilyn yr halen yn aer Caergybi i’r halen yn nagrau merched y dref, ac rwy’n ddiolchgar i Sue a Peter am rannu ei stori gyda mi. Yn bennaf oll, rwy’n cydnabod tristwch Evelyn, a’r nifer fawr o fenywod tebyg iddi, sydd wedi’u gadael ar eu pen eu hunain ar ôl i’r Capten alw.

Salt, or Evelyn on the Shore

The salt is in the wind where the beach bellows wide,
In the night, in the proud Port town.
On Newry Street, smell it in the tightly terraced rows
Through the windows where the grain falls down.

Past the Stanley Arms, smell it on the pavements
In the dregs of the landlord’s beer,
And it sits in the cracks of the Roman Fort
Where the dead watch the boats draw near.

In the church yard, on the stones of sleeping sailors,
Who the sea took all for its own,
The salt is in their soil and it holds them there still
In the dark, a grain for a bone.

It flies, a salt spectre, on Hyfrydle chapel’s towers
stinging in the rain in the breeze,
It’s looking for its kin in the face of a lover,
Down the lanes, in the gorse, past the trees.

It speeds in the night, past Penrhos Feliw
The salt on the standing stone,
Then it sees her awake, a drift in the dark
A woman in the wind all alone.

She walks by the boom of the sea by the moon,
The salt now settled in her hair,
It mingles with the water falling down on her face,
for her sailor is no longer there.

They rode their bikes here, the salt in their spokes
With the scent of cowslips by the shore,
and they walked to their chapel, under big open skies,
and prayed not to be riven by War.

His Captain had called him out to her sea,
So he gave her his dagger of gold,
The salt crusted thick on the side of his ship
and on her skin, in Porthdafarch, in the cold.

Copyright, Gillian Brownson 2021

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw