Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
“TRAGEDY OF THE SEA” meddai pennawd papur newydd lleol Sir Benfro, The County Echo, wrth nodi bod ymosodiad gan y gelyn wedi dinistrio’r fferi i deithwyr a phost rhwng.

Stori
St Patrick oedd yr unig fferi oedd yn dal i hwylio rhwng Iwerddon a Chymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y lleill, St David a St Andrew, wedi cael eu hanfon fel llongau ysbyty i wasanaethu’r ffrynt Ewropeaidd. Roedd y St Patrick yn croesi Môr Iwerddon yn gyson bob dydd, lle roedd maes ffrwydron helaeth i’r de yn ei diogelu rhag i longau tanfor ymosod. Serch hynny, roedd y llong wedi cael ei phledu ddwywaith o’r awyr a’r flwyddyn flaenorol roedd morwr o Wexford, Moses Brennan, wedi marw yn dilyn clwyf gwn peiriant.

Efallai fod rhai o’r teithwyr a ddaeth i’r llong yn Wexford nos Wener 13 Mehefin 1941 o’r farn bod y dyddiad yn un anlwcus, ond roedd y môr yn dawel ac roedd y llong yn nwylo profiadol y Capten Jim Faraday a oedd yn disgwyl cyrraedd ei borthladd cartref yn Abergwaun yn fuan ar ôl codiad haul. Yn anghyffredin ddigon, roedd ei fab Jack a oedd yn gadet yn y Llynges Fasnachol gydag ef ar y daith ‘o ran hwyl’ gan ei fod yn digwydd bod gartref ar wyliau. Fel y rhan fwyaf o’r criw, dyn lleol oedd y capten, ond roedd pump yn Wyddelod, fel y rhan fwyaf o’r teithwyr.

Ddeuddeg milltir oddi ar Ben-caer, wrth i wawr diwrnod o haf dorri, cafodd y llong ei thargedu gan awyren Heinkel o’r Almaen a ollyngodd bedair bom ar ei chanol, gan ddinistrio’r caban salŵn a’r bont lywio a thanio’r tanciau tanwydd. Bu farw pob un ond un o’r teithwyr dosbarth cyntaf ar unwaith ac felly hefyd y capten a’i uwch swyddogion. Torrodd y llong yn ddwy ran a suddo mewn munudau. Lansiodd y criw oedd wedi goroesi fad achub a rafft a gwneud eu gorau glas i achub y 43 o deithwyr oedd ar ôl, y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn trafferth yn y dŵr llawn olew.

O’r ddwy stiwardes, roedd un wedi’i lladd yn y fan a’r lle, gan adael Mai Owen, 41 oed, ar ei phen ei hun, i achub y menywod a’r plant. Gwrthododd May adael y llong wrth iddi suddo nes bod ei holl deithwyr mewn siacedi achub, a hyd yn oed ar y funud olaf aeth isod eto i helpu un teithiwr. Yna, cynhaliodd fenyw a merch yn y dŵr am ddwy awr cyn iddyn nhw gael eu codi gan fad achub.

Aeth yr ail beiriannydd Frank Purcell i lawr yn ddewr drwy’r fflamau i achub tri dyn a oedd wedi’u dal yn ystafell yr injan. Daeth o hyd i un arall wedi’i anafu mewn tramwyfa, dod ag ef i’r dec a’i gynnal yn y dŵr nes y gellid eu hachub.

Arhosodd y gweithredwr radio, Norman Campbell, yn ei le islaw’r deciau tan y diwedd un, gan ddefnyddio offer brys i alw am help. O ganlyniad i’w ddewrder a’i feddwl chwim, llwyddodd i rybuddio llongau cyfagos, a ruthrodd i’r fan. Cafodd y teithwyr a’r criw oedd wedi goroesi eu codi o’r môr a’u cludo i Aberdaugleddau. Erbyn i fad achub Abergwaun gyrraedd, doedd dim byd i’w weld ond ychydig o focsys pysgod ymhlith y swigod.

Cafodd y tri aelod criw hyn, bob un yn byw yn Abergwaun ac Wdig, eu hanrhydeddu’n nes ymlaen am eu dewrder. Derbyniodd Frank Purcell a Norman Campbell yr OBE tra dyfarnwyd Medal George am ddewrder i May Owen. Dychwelodd i weithio fel stiwardes a byw yn dawel, heb i lawer wybod am ei harwriaeth. Fe briododd ond chafodd hi ddim plant, ac mae wedi’i chladdu mewn mynwent wyntog a thawel yn uchel uwchben ei thref enedigol o fewn golwg i’r môr a Phen-caer, heb fod yn bell o’r fan lle mae St Patrick yn gorwedd ar wely’r môr. Prin y gellir gweld y llythrennau bach G.M. ar ôl ei henw.

Yn rhyfedd iawn, mae dwy drasiedi gyfochrog yn ymwneud â thadau a meibion yn gysylltiedig â cholli’r St Patrick, gan adlewyrchu ei gilydd ar draws y dŵr fel pe baen nhw’n tynnu sylw at fregusrwydd bywydau ar y môr.

Roedd Jack, mab 19 oed y Capten Faraday, er nad oedd yn aelod swyddogol o’r criw, yn nofiwr cryf a bu’n gweithio’n ddiflino i achub pobl o’r dŵr ond, pan welodd nad oedd ei dad yn eu plith, aeth yn ôl i chwilio amdano. Chafodd e mo’i weld eto. Yn nes ymlaen, ymunodd ei frawd â’r llu awyr i geisio talu’r pwyth yn ôl a chollodd yntau ei fywyd hefyd. Roedd aelod ieuengaf criw y St Patrick, gwas dec o’r enw Michael John Brennan, 17 oed, yn fab i’r morwr o Wexford a fu farw o anafiadau a gafwyd yn ymosodiad blaenorol y gelyn ar y llong. Yr hynaf o saith o blant Moses Brennan, roedd John wedi mynd i’r môr i gynnal ei deulu ar ôl marwolaeth ei dad.

Yn dilyn suddo’r St Patrick, rhannodd cymunedau clos Wexford ac Abergwaun/Wdig boen y golled a ymledodd ac a gyffyrddodd â chynifer ym mlynyddoedd y rhyfel – poen nad yw’n cael ei anghofio hyd yn oed nawr. Bob blwyddyn ar Sul y Cofio mae’r fferi presennol yn oedi wrth groesi ac yn gollwng torch yn y fan lle’r aeth y St Patrick i lawr.

Tamaid hanesyddol
Mae Pen-caer ar Lwybr Arfordir Sir Benfro ac mae tua chwe milltir o daith gerdded oddi yno i Wdig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw