Cricieth - COLEG MEIRION-DWYFOR - PROSIECT HANES
Disgrifiadau
Cricieth - COLEG MEIRION-DWYFOR - PROSIECT HANES.
Fel rhan o waith ymchwil ar gyfer uned waith cwrs Bagloraieth Cymru Her y Gymuned, cydweithiodd y myfyrwyr hefo'r gymuned leol i gasglu, dogfennu ac ymchwilio. Bu'r criw yn ymweld a'r Llyfrgell Genedlaethol, i astudio casgliad oedd yn gysylltiedig a Chricieth a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Defnyddiwyd casgliad digidol y lllyfrgell o bapurau newydd ar-lein i ganfod hanes y milwyr, a hanesion yr ardal a'r cyfnod. Yng Nghastell Caernarfon, Amgueddfa Lloyd George, a'r Neuadd Goffa bu'r myfyrwyr yn gwrando ar arbenigwyr i ddysgu am y cyfnod. Cydweithiodd y myfyrwyr hefo plant Ysgol Treferthyr mewn gweithdai creadigol: cyfle gwych i rhannu storiau, datblygu sgiliau, a chodi ymwybyddiaeth.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment