Disgrifiad

Roedd yn fraint a hyfrydwch i Gyngor Tref Criccieth gipio Menter Dreftadaeth Orau Un Llais Cymru 2019 ar gyfer prosiect Cofio Cyfraniad Criccieth i’r Rhyfel Mawr. Roedd y prosiect mewn partneriaeth gydag Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion- Dwyfor, Neuadd Goffa Cricieth a’r gymuned leol. Mae gan Gricieth dreftadaeth unigryw o safbwynt y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r Neuadd Goffa yn gofeb i 49 o unigolion lleol a fu'n ymladd ac a fu farw. Mae llawer o deuluoedd a disgynyddion yr unigolion hyn yn dal i fyw yng Nghricieth a'r ardal heddiw ac efo llawer o hanesion a chofnodion. Roedd Criccieth hefyd yn gartref i David Lloyd George, Prif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ystod ei gyfnod yn Rhif 10 Stryd Downing roedd llawer o Gymry Cymraeg o Griccieth yn gweithio yno ac mae teuluoedd a disgynyddion llawer ohonynt dal i fyw yng Nghricieth a'r ardal heddiw. Roedd y prosiect yn bosib o ganlyniad i gael grant o £10,000 gan Dreftadaeth y Loteri (Rhaglen ‘Rhyfel Byd Cyntaf - ddoe a heddiw’). Daeth cannoedd o bobl o bell ac agos i fynychu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Goffa 2018 a oedd yn benllanw gwaith unigryw a oedd wedi cymryd lle yn ystod y flwyddyn.
Cychwynnwyd yr wythnos gydag agoriad arddangosfa yn Neuadd Goffa Criccieth, gan Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol ar brynhawn dydd Sul 4ydd Tachwedd. Roedd yr arddangosfa ar agor wedyn yn ddyddiol yn ystod yr wythnos. Cafwyd dros 400 o sylwadau clodwiw gan y cyhoedd, y plant a’r myfyrwyr a gofnodwyd yn y llyfr ymwelwyr yn ystod Wythnos y Cofio. Mae’r adroddiad
gwerthuso annibynnol ar y prosiect gan Mr Cynan Jones yn nodi “y gellir grisialu effaith y prosiect ar y gymuned gyda dau ddyfyniad o’r llyfr sylwadau sy’n cadarnhau bod prif nodau ac amcanion y prosiect wedi eu cyrraedd ac yn wir wedi rhagori arnynt: “Diolch am ddod a’r gymuned at ei gilydd”, “Diolch am ddod a’r hanes yn fyw”.

Delwedd 2. Aelodau Pwyllgor y Canmlwyddiant ac aelodau’r Prosiect gyda Gwesteion:
O’r chwith: Nick Keane Cadeirydd Neuadd Goffa, Kathryn Ellis - Uchel Siryf Gwynedd, Dr.Peter Harlech Jones Cadeirydd, Liz Saville-Roberts AS, Elizabeth George Cadeirydd Cyngor Tref, Ffion Gwyn Llywydd yr Prosiect, Dr Catrin Jones Clerc Cyngor Tref Criccieth, Linda Tomos Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyng. Robert Dafydd Cadwalader.

Ffotographau gan Peter Milnes

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw