Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cofio Cricieth 1918 -2018 Ysgol Treferthyr. Mae Cyngor Tref Cricieth wedi derbyn grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw) ar gyfer prosiect Cofio Cyfraniad Cricieth mewn partneriaeth efo Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion Dwyfor a Neuadd Goffa Cricieth. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae plant Ysgol Treferthyr a grwp o fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor wedi bod yn ymchwilio i ac yn dysgu am gyfraniad Cricieth i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r effaith a gafodd ar y dref, yr ardal a'r bobl. Bu'r plant a'r myfyrwyr hefyd yn cydweithio efo'r beirdd a cherddorion Twm Morys a Gwyneth Glyn ac efo'r artist lleol Ffion Gwyn sydd hefyd wedi bod yn cydlynu'r prosiect i greu cyfres o gerddi, arddangosfeydd, gosodiadau a chofebion cyfoes i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r pwyslais ar heddwch i gofio a choffhau cyfraniad Cricieth a'r ardal i'r rhyfel honno. Ffotograffau gan Ffion Gwyn

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw