Cricieth - RHAEADR HEDDWCH
Disgrifiadau
Cricieth -RHAEADR HEDDWCH.
Creuwyd y silindrau clai gan fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor, a'u tiwtor Jane Williams, o grochendy Cors y Gedol, yn Llanbedr. 200 silindr clai, sy'n symbol o'r 200 o filwyr aeth o'r fro i frwydro yn y Rhyfel Mawr. Ysgrythwyd amlinelliad y pabi ar bob un, a'u gorchuddio hefo gwydredd coch, oren a gwyn; coch i'r pabi sydd bellach yn symbol o goffhau, oren yn cyfeirio at y pabi Cymreig, a'r gwyn yn babi Heddwch. Ychwanegwyd lliw aur i 50 ohonynt fel atgof o'r rheini a gollodd eu bywydau. Wrth osod y 200 silindr hefo'u gilydd, mae'n adleisio'r fyddin mewn undod, ffrindiau ynghyd, yn gefn i'w gilydd. Bydd 3 o'r potiau clai yn cael eu rhoi i gasgliad arddangosfa Amgueddfa Filwrol yng Nghastell Caernarfon, bydd rhai yn cael eu harddangos yn barhaol yng nghyntedd y Neuadd Goffa a'r gweddill yn cael eu rhoi i'r gymuned fel atgof parhaus i gofio cyfraniad Cricieth.
Ffotograffau gan Peter Milnes
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment