Y Chwiorydd Cummings: Cipolygon Dyfrlliw o Ogledd Cymru's profile picture

Y Chwiorydd Cummings: Cipolygon Dyfrlliw o Ogledd Cymru

Dyddiad ymuno: 09/11/20

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Teithiodd Beatrice (1856-1935) ac Annie Francis Cummings (1861-1925) yn helaeth ledled Gogledd Cymru a rhannau o Loegr, gan fraslunio a phaentio'r byd naturiol a'r adeiladau dynol y daethant ar eu traws ar hyd y ffordd.

Mae cynnwys y naw albwm ar hugain a gynhyrchwyd ganddynt yn ystod y teithiau hyn nid yn unig yn gofnod darluniadol o ble aethant a'r hyn a welsant, ond mae hefyd yn adlewyrchiad agos iawn o'r hyn yr oeddent yn ei werthfawrogi yn y tirwedd a'r bywyd o'u cwmpas. Yn y bôn, ni wyddom bron ddim mwy amdanynt heblaw am yr hyn y gellir ei gasglu o gynnwys yr albymau.

Yn 2015 rhoddwyd yr albymau gan eu teulu yn Cape Town i'r 'Friends of Rondebosch Common', cyn cael eu digido a'u hymchwilio'n helaeth gan Mark Callaghan yn Ne Affrica.

Mae'r albymau ffisegol bellach wedi'u harchifo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, lle bu gwirfoddolwyr yn gweithio ar y metadata ac yn cyhoeddi llawer o'r deunydd ar Gasgliad y Werin Cymru.