Pobl yng ngweithiau celf Beatrice ac Annie Cummings

Ymysg casgliad y chwiorydd Beatrice ac Annie Francis Cummings mae nifer fechan o baentiadau a darluniau o bobl, rhai mewn lleoliadau penodol, megis y llun o berthnasau ifanc yn chwarae ar y traeth yn Nhywyn ac eraill yn bortreadau syml neu frasluniau. Hefyd wedi'u cynnwys yn y casgliad mae lluniau o'u brodyr, Sidney a Wilfred, yn eistedd ar y twyni tywod yn y Bermo. Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy chwaer geisio baentio'r un gwrthrych. Mae'r gwisgoedd a'r steil gwallt y rheini a bortreadir yn y casgliad yn nodweddiadol o'r cyfnod o ddiwedd y 1800au a dechrau'r 1900au.

Mae 11 eitem yn y casgliad