arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd

Archif Cof - Dementia Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Archif Cof - Dementia

Darganfyddwch yr ‘Archif Cof’ yng Nghasgliad y Werin Cymru a dysgwch am ddementia.Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyflwr cyffredin sy’n newid bywydau. Gall hefyd roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi nhw i gefnogi aelodau o’u teulu a’u cymuned sy’n byw gyda dementia.Bydd yr adnodd hwn:yn eich cyflwyno chi i ‘Archif Cof’ ar wefan Casgliad y Werin Cymru, sef archif o ddelweddau y gallwch eu defnyddio wrth hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementiayn eich cyflwyno chi i adnoddau addysg y Gymdeithas Alzheimer’s i ysgolion sy’n gwneud addysgu a dysgu am ddementia yn hawddyn rhoi cyngor ar sut allwch chi ddefnyddio Archif Cof mewn dau weithgaredd atgofion ymarferol: Creu Coeden Gof a Chreu Llinell Amser Cofyn eich cyfeirio at adnoddau dementia eraill am ddim, gan amlygu’r rhai sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg Y Cyfnod SylfaenDatblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r bydCyfnod Allweddol 2, 3 a 4Addysg bersonol a chymdeithasolCwricwlwm Cymru 2022Iecheyd a Lles, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.