Disgrifiad

Daw’r tudalennau hyn o lyfr lloffion a gyweiniwyd gan Dr Mary Eppynt Phillips, yn amlinellu’r gwaith codi arian ar gyfer gweithgareddau Ysbyty Menywod yr Alban yn Serbia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maen nhw’n cynnwys toriadau o bapur newydd, apeliadau i’r wasg a manylion taith ddarlithio Dr Phillips ar draws Prydain. A hithau wedi dychwelyd i Brydain o’i gwaith fel uwch feddyg yn Valjevo oherwydd afiechyd, aeth Dr Mary Eppynt Phillips o Ferthyr Cynog ati i godi arian ar gyfer yr ysbytai. Aeth ar daith yn darlithio, gan son am waith yr ysbytai yn trin dioddefwyr teiffoid a milwyr wedi’u hanafu. Am ei gwaith codi arian, derbyniodd Dr Eppynt Phillips ddiolch gan lywodraeth Prydain a Serbia a chafodd ei haddurno gan Serbia ym 1918.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw