Tîm rygbi Cymru, Cymru yn erbyn yr Alban, 1892
Disgrifiadau
Cymru (2) yn erbyn yr Alban (7) yn Sain Helen, Abertawe ar 6 Chwefror 1892. Sgoriwr Cymru: y blaenwr J. Hannen. Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: R Mullock(Swyddog URC), A Boucher, T Deacon, C B Nicholl, J Conway Rees, T C Graham, W H Watts. Ail res, o'r chwith i'r dde: W McCutcheon, F Mills, A J Gould (Capten), J Hannan, W Bancroft, T W Pearson. Rhes flaen: H T Day, D James, E James. Collodd Cymru yn erbyn yr Alban ar 6 Chwefror er gwaethaf ailgyflwyno'r brodyr James yn dilyn perfformiad tlawd yn erbyn Lloegr. Collodd Cymru o 7-2. Chwaraeodd chwech aelod o dîm Abertawe yn y gêm hon ar eu maes eu hunain, sef Thomas Deacon, Billy McCutcheon, Fred Mills, y brodyr James, David ac Evan, a Billy Bancroft yn safle'r cefnwr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment