Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Chwaraeodd W. J. Trew i Glwb Rygbi Abertawe ac i Gymru. Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf ym 1900. Ei enw llawn oedd William James Trew. Cafodd ei eni tua 1878 yn Abertawe a bu farw 20 Awst 1926. Ei safle oedd canolwr. Chwaraeodd W J "Billy" Trew i Abertawe rhwng 1897 a 1913 a bu'n gapten 6 gwaith (5 yn olynol) sy'n record clwb sy'n cael ei rannu gyda W J Bancroft. Roedd ei gapteiniaeth yn cynnwys y fuddugoliaeth dros Awstralia ym 1908 a'r fuddugoliaeth dros Dde Affrig ym 1912. Roedd yn sgorio llawer o geisiau ac yn cael ei weld yn "athrylith rygbi". Roedd yn ddylanwadol iawn yn 2 Gamp Lawn gyntaf Cymru (1908 a 1909), enillodd 29 cap i Gymru o 1900 tan 1913 (14 fel capten) gan gynnwys 4 Coron Driphlyg a 3 Camp Lawn. Roedd Cymru gyfan yn galaru pan fu farw. (Archif y Clwb)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw