Skip to main content

Llofnodion tîm Clwb Rygbi Abertawe, 1907

Disgrifiadau

Dyma lyfr llofnodion cefnogwr ifanc gyda brasluniau, lluniau a sawl llofnod anhysbys. Ond mae'r dudalen hon yn agos i flaen y llyfr yn cynnwys llofnodion tîm Abertawe a chwaraeodd yn erbyn Caerl?r yn Welford Road ym mis Chwefror 1907. Ymhlith yr enwau enwog a welir yma mae (ar y chwith) Jack Bancroft, Fred Scrine, W H hunt, F J "Jenny" Gordon, F E Perkins (Ysgrifennydd), Billy Trew, Dickie Owen, D J Thomas, L Davies, Phil Hopkins, Edgar Morgan, 'not known', Bob Dowdle (hyfforddwr),(ar y dde): Harry Toft, Ivor Morgan, J Davies, Aubrey Smith, W Bowen, Daniel Guy(?), Fred Rees, Will Joseph, M O Begley (?), D Ivor Lewis. Mae perchennog y llyfr wedi ysgrifennu: "These autographs were made at the Grand Hotel Leicester after Swansea lost their Invincible record Feb 16 1907." Mae 'anorchfygol' yn cyfeirio at dymor 1906-7 hyd at y diwrnod hwnnw yn hytrach na thymor 1904-5 pan na chawsant eu curo o gwbl. Ond roedd y Tymor Anorchfygol yn ddigon diweddar i'r cefnogwr ifanc hwn ddefnyddio'r term. (Archif y Clwb)

Owner:
Swansea RFC
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Swansea RFC
Copyright Details:
Swansea RFC
Publisher Ref:
CNA20714
Eitem wedi’i llwytho:
1/2/2012
Date originally created:
1/1/1907 - 31/12/1907
Gwelediadau:
1044
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment