Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Chwaraeodd W J "Billy" Bancroft am y tro cyntaf i Abertawe ym 1889, a dechreuodd ar yrfa enwog. Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gofio fel cefnwr gorau Abertawe erioed. Ef oedd prif sgoriwr y clwb mewn 12 o'r 14 tymor o 1888/9 - 1901/2. Roedd ei frawd iau John (Jack) hefyd yn chwarae i Abertawe a Chymru am sawl tymor. Roedd brawd arall, George, yn chwarae i ail dîm y clwb. Sefydlodd Billy Bancroft record byd ar y pryd o 33 o ymddangosiadau yn chwarae yn safle cefnwr i Gymru yn ystod y cyfnod 1890 - 1901, ac ef oedd yn gapten 11 o weithiau. Sgoriodd gyfanswm o 60 o bwyntiau i Gymru ac ef giciodd pob cic gosb yn ystod y gemau rhyngwladol y bu'n chwarae ynddynt. 'Banky' hefyd oedd capten Abertawe ym 1893/94 ac yna am 5 tymor yn olynol o 1896/97 tan 1900/01, ac ymddeolodd ar ddiwedd tymor 1902/03. Chwaraeodd griced fel chwaraewr amryddawn i Abertawe, De Cymru, Morgannwg (daeth ef eu chwaraewr proffesiynol cyntaf ym 1895) a Gorllewin Lloegr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw