Dickie Owen, Tîm Rhyngwladol Cymru a thîm Clwb Rygbi Abertawe1902-1903
Disgrifiadau
R M Owen dyddiad geni 17 Tachwedd 1876 yng Ngland?r. Clwb Rygbi Abertawe 1899-1912. Anrhydeddau: mewnwr Cymru. Roedd Richard Morgan "Dicky" Owen yn un o arwyr Oes Aur Cyntaf rygbi Cymru. Cafodd 35 cap o 1901 tan 1912 ac ennill 5 Coron Driphlyg a chapteinio Cymru tair gwaith, y tro olaf ym 1912 yn erbyn yr Alban yn Sain Helen lle cafodd ei gario ar ysgwyddau'r chwaraewyr wedi iddynt ennill. Bu hefyd yn gapten ar Abertawe ym 1912-13. Roedd yn feistr yn ei safle a datblygodd y 'feint & reverse pass'. Drysodd amddiffynwyr Seland Newydd ym 1905 ac arweiniodd at gais a buddugoliaeth enwog. Datblygodd bartneriaeth ddifrodus gyda Dick Jones yn Abertawe ("the dancing dicks") mewn Oes Aur i'r clwb. (Arhif y Clwb)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment