Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Taith ddiniwed neu syrffio tonnau hanes? Sut y gall taith mewn fferi ein cysylltu gyda'r morlun, gan brocio'r ymwybod hanesyddol.

Stori
Mae cân gan fand roc gwerin The Waterboys o'r enw ‘This is the Sea’. Mae'n sôn am y newidiadau yn ystod bywyd rhywun, gan ddefnyddio'r môr fel metaffor: Once you were tethered, Now you are free, That was the river, This is the sea. Am rhyw reswm, roedd y geiriau hynny yn fy meddwl pan ymwelais ag Iwerddon am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2022. Taith dair noson i'r dynion oedd hon i Ddulyn, lle y treuliom gryn dipyn o'r amser yn ymgyfarwyddo ag yfed diod arbennig o dywyll. Er hyn, llwyddom i weld rhai o'r golygfeydd, a oedd o leiaf yn rhoi'r argraff bod gennym amserlen strwythuredig a'n bod yn edrych fel casgliad chwilfrydig o ymwelwyr. Tridiau pleserus iawn heb os, ond yr elfen ychwanegol o fodlonrwydd i mi oedd y daith i Ddulyn, gan groesi Môr Iwerddon.

Roedd y Waterboys yn lled-awgrymu'r cyfleoedd newydd sy'n codi mewn bywyd, a'n gallu i greu straeon newydd. Heb os, gallai hyn fod yn berthnasol i Fôr Iwerddon; y cysylltiadau hanesyddol, yn wir ni ellir anwybyddu'r grymoedd hanesyddol sydd wedi syrffio'r tonnau hynny dros y canrifoedd. Er gwell neu er gwaeth, mae Môr Iwerddon wedi cynnig cyfleoedd – rhai ohonynt yn gyfrwys ac yn greulon, eraill yn ddifyr ac yn gyfoethog. Mae wedi cyflawni rôl pwysig yn hanes yr ynysoedd hyn, ac mae'n parhau i siapio ein naratif a'n hunaniaeth hyd heddiw.

Rydw i'n byw yn Abertawe ac mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn eithaf hoff o'r môr. Teithiais ar y fferi o Abergwaun i Rosslare, yna ar y trên i gyfeiriad y gogledd ar hyd arfordir y dwyrain i brifddinas Iwerddon. Nid oes cywilydd arnaf gyfaddef bod y plentyn ynof yn teimlo'n eithaf cyffrous wrth edrych ymlaen i groesi'r môr, gan ddychmygu fy mod yn Llychlynnwr o'r nawfed ganrif a oedd yn codi pac er mwyn darganfod tiroedd newydd, ond ar yr un pryd, byddaf yn cadw golwg ar yr ap traffig morol ar fy ffôn clyfar i weld pa longau eraill sydd gerllaw. Hoffwn ddyfynnu'r bardd Americanaidd, Henry Wadworth Longfellow, er mwyn ei gyfleu mewn ffordd fwy blodeuog: 'Mae fy enaid yn hiraethu am gyfrinachau'r môr, ac mae calon y môr mawr fel curiad cynhyrfus ynof.'

Gan ymgorffori ysbryd geiriau Longfellow, ni allwn fod wedi gofyn am dywydd gwell wrth groesi amser cinio. Roedd yr haul yn gwenu yn yr awyr las a'r môr yn llyfn fel gwydr. Wrth i'r fferi adael Abergwaun, sefais ar fwrdd y llong i wylio arfordir Cymru yn araf ddiflannu yn nhawch heulwen y gwanwyn, gan sylweddoli bod hon yn olygfa y byddai nifer wedi ei phrofi dros y canrifoedd. Wedi'r cyfan, mae Môr Iwerddon wedi cyflawni rôl pwysig fel sianel grymoedd hanesyddol ers amser hir iawn, gan gysylltu pobl yr ynysoedd hyn yng ngogledd-orllewin Ewrop trwy iaith, diwylliant, masnach, mudo, diplomyddiaeth, gwleidyddiaeth, a rhyfel. Mae safleoedd neolithig yn Iwerddon yn tystio i'r ffaith bod pobl wedi croesi'r môr, ac yn ddiweddarach, bu'r Rhufeiniaid yn masnachu gyda llwythi Iwerddon, gan gyfnewid metelau, gwartheg, grawn, a chaethweision ar draws Môr Iwerddon, yn gyfnewid am olewau a nwyddau crefft. Ac yn fuan wedi hynny, gwelwyd llwythi Iwerddon fel y Déisi yn hwylio i'r dwyrain, gan setlo mewn rhannau o Gymru a Chernyw, a gwelir eu holion troed archeolegol ar draws y tiroedd hyn ar ffurf y cerrig arysgrif niferus sy'n cynnwys arysgrif ogam a'r rhai heb arysgrif ogam.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw