Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Mae catamaran Irish Ferries, Dublin Swift, wedi’i enwi ar ôl Jonathan Swift, deon Eglwys Gadeiriol Sant Padrig yn Nulyn yn y ddeunawfed ganrif. Ond nid dyna’r unig Swift sydd wedi bod yn amlwg yn hanes y croesiad o Gaergybi i Ddulyn.
Stori
Tua diwedd Rhyfel Cartref Lloegr, cymerodd Thomas Swift reolaeth dros gaer Caergybi ym 1649, ac yn y flwyddyn ganlynol fe'i gwnaed yn Bostfeistr. Rhoddodd hyn gyfrifoldeb iddo am y llongau oedd yn cludo'r post i Iwerddon, sef cyfrifoldeb digon trafferthus. Mae môrladron – o Loegr, Iwerddon, Ffrainc a hyd yn oed Twrci – wedi’u cofnodi ym Môr Iwerddon yn yr ail ganrif ar bymtheg, gan gipio llongau a'u cargo, a dal llongau am bridwerth. O dro i dro cafodd llongau’r llynges eu galw i warchod y llwybr rhwng Caergybi a Dulyn.
Arhosodd Thomas Swift yng Nghaergybi trwy gydol cyfnodau Cromwell a’r Adferiad ac adeiladodd dafarn i'r gogledd o'r eglwys. Roedd Swift Court, oedd yn cael ei adnabod wedyn fel Welch's Inn, yn cynnig llety o safon uwch i deithwyr, gan gynnwys y Deon Swift yn y 1720au. Ar y llaw arall, roedd anheddau mwy cyntefig eraill yn y dref a ddefnyddid gan deithwyr wedi'u toi â broc môr a gwellt. Weithiau mae’r ardal i'r gogledd o'r eglwys yn dal i gael ei hadnabod fel Swift Square, ond does dim modd dod o hyd i'r dafarn mwyach. Cafodd yr ardal gyfagos ei difrodi gan fomiau yn yr Ail Ryfel Byd pan gafodd Tŷ’r Eglwys ar Boston Street ei daro ar 5 Hydref 1940, er mae'n debyg mai'r bom a syrthiodd ar 9 Ebrill 1941 a ddifrododd yr hen dafarn, ynghyd â Chapel Methodistiaid Wesleaidd Bethel ar gornel Victoria Road (Lands End gynt) a Swift Square. Cafodd y tai gerllaw ar Church Lane eu clirio ynghyd ag unrhyw olion o Swift Court yn y 1950au neu'r 60au ac mae'r ardal bellach yn faes parcio.
Ym 1658, codwyd tŵr Eglwys Cybi Sant ddwy droedfedd ar bymtheg gan Swift fel tŵr i wylio am fôr-ladron, a bu hefyd yn warden yr eglwys. Cafodd garsiwn y gaer lety yn yr eglwys yn y 1650au, nad oedd yn anghyffredin i filwyr y Senedd, ac mae'n debyg bod milwyr o dan orchymyn Swift wedi difetha dodrefn canoloesol yr eglwys, gan gynnwys beddau, ac yn gyfrifol am golli ffigurau cerfiedig o gilfachau a'r ffont canoloesol. Wedi'r Adferiad ym 1660 cafodd bedyddfaen newydd ei osod yn yr eglwys, ac arysgrifiwyd enwau wardeniaid eglwys newydd ym mis Hydref 1662 (Robert Lloyd a Robert ap H.V. Probert). Parhaodd Thomas Swift i wasanaethu fel Postfeistr ar ôl iddo gael ei gadarnhau yn y rôl o dan Charles II.
Nid yw'n glir o ble roedd Thomas Swift yn dod, ond os oedd ef, fel rhai eraill a fu’n dal teitl Postfeistr yng Nghaergybi ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, yn dod o Ddulyn, mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Jonathan Swift.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw