Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Cafodd y berthynas rhwng yr awyr a’r môr ei drawsnewid pan ddyfeisiwyd y balŵn aer poeth yn y 1780au. Ond nid ar chwarae bach y byddai Môr Iwerddon yn cael ei groesi mewn balŵn.

Stori
O’r hediad cyntaf mewn balŵn aer poeth ym Mharis ym mis Tachwedd 1783, creodd balwnau argraff bwerus ar ddychymyg y cyhoedd. Doedd y bobl gyntaf a welodd falwnau aer poeth ddim yn siŵr beth yn union oedd eu diben, ond roedd gallu balŵn i osod ffiniau newydd mewn teithio a dyfeisgarwch technegol yn eglur ar unwaith. Am y tro cyntaf, gellid credu y byddai siwrneiau oedd wedi bod yn bosibl ar y môr yn unig yn y gorffennol yn ymarferol drwy deithio yn yr awyr. Fel y mae Paul Keen wedi nodi, daeth balwnau awyr yn gyflym iawn yn fersiwn gynnar o’r ‘ras ofod’, gydag awyrenwyr yn rhoi cynnig ar gampau mwyfwy beiddgar fel croesi Môr Udd. Daeth croesi Môr Iwerddon trwy ddefnyddio balŵn i’r amlwg yn gynnar fel her arall i’w hateb, ond byddai bron deng mlynedd ar hugain yn rhagor yn mynd heibio cyn i awyrenwyr ddod yn agos at groesi’n llwyddiannus rhwng Dulyn a Chaergybi yn yr awyr.

Codwyd y balŵn cyntaf â rhywun ynddo yn Iwerddon ym mis Ionawr 1785, yn Nulyn, gan Richard Crosbie (1755-1824). Dywedir bod rhyw 20,000 o bobl wedi bod yn dyst i’w daith i’r awyr ac ar draws Bae Dulyn, lle glaniodd yn Clontarf. Croesi Môr Iwerddon mewn balŵn oedd nod pennaf Crosbie, ond ni lwyddodd ef na chystadleuwyr o’r Alban a Ffrainc a geisiodd groesi Môr Iwerddon o Ddulyn yn y 1780au chwaith. Yn ystod y rhyfel yn Ewrop yn sgil y Chwyldro Ffrengig ym 1789 daeth cynlluniau i groesi’r môr mewn balŵn i ben, ac nid tan 1812 y cafwyd yr ymgais nesaf o ddifrif. Ym 1812, yr awyrennwr a fwriadai groesi Môr Iwerddon oedd James Sadler (1753-1828), sef y balwnydd cyntaf erioed o Loegr pan hedfanodd am gyfnod byr o Rydychen ym mis Hydref 1784.

Denodd cynllun Sadler i groesi’r môr lawer o sylw: dros haf 1812, cafodd ei falŵn ei ddangos i’r cyhoedd yn Rotunda Dulyn, mewn ymdrech i godi arian tuag at yr ymgais i groesi. Pwysleisiodd gwyddonwyr, gwleidyddion ac awduron ddibenion milwrol a masnachol balwnau aer poeth ar wahanol adegau yn y cyfnod hwn, ond gellid dadlau mai adloniant, ffantasi a chrefftwaith oedd effaith fwyaf y balwnau. Roedd lansio balŵn Sadler, o Belvedere House yn Drumcondra, ym mis Hydref 1812 yn fater dramatig, gan ddenu torfeydd mawr a chynulleidfa aristocrataidd. Mewn print sy’n tynnu sylw at natur bwysig yr hediad – yn ogystal â statws Sadler fel awyrennwr Seisnig o’r tu allan o bosibl – mae’r balŵn yn dangos baner sy’n cynnwys slogan cenedlaetholgar o’r 1790au ‘Erin go Brah’ – Iwerddon am Byth. Fel ymdrechion blaenorol, fodd bynnag, methiant fyddai’r hediad hwn yn y diwedd, a bu’n rhaid i Sadler gael ei achub gan long oedd yn pasio oddi ar arfordir y Gogledd.



Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw