Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae eglwys ganoloesol yn Sir Benfro a'r bae mawr i'r gogledd wedi’u henwi ar ôl santes enwog o Iwerddon.

Stori
Mae eglwysi canoloesol y mae’n ymddangos eu bod wedi'u cysegru i'r santes Wyddelig Brigid, Bride neu Ffraid yn Gymraeg, i’w cael ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Mae'n ymddangos bod yr hafan fawr sy'n wynebu'r gorllewin, o’r enw Bae Sain Ffrêd yn Sir Benfro, yn cael ei hadnabod yn ôl fersiynau o'r enw yma ers yr unfed ganrif ar bymtheg, ac roedd eglwys i'r de o'r bae wedi’i chysegru i'r santes erbyn canol y drydedd ganrif ar ddeg o leiaf. Mae parch tuag at Brigid o Gildara ar lannau’r Gorllewin yn awgrymu dylanwad Gwyddelig a oedd yn amlwg yn yr ardal yn llawer cynharach yn y cyfnod ôl-Rufeinig, pan fo cerrigOgam Gwyddelig yn dangos bod Gwyddelod wedi setlo yn y De-orllewin.

Cofnododd Samuel Lewis fod yna gapel ar y traeth ger yr eglwys yn y 1830au, a hwnnw wedi’i droi’n dŷ halen ar gyfer y bysgodfa benwaig a oedd wedi ffynnu yno yn y ganrif flaenorol. Mae'r capel wedi ei golli i'r môr, ynghyd â chladdedigaethau ar y safle. Mae ei agosrwydd at y môr, a'r golled ddilynol, yn adlewyrchu'r capel a gysegrwyd i Ffraid yn Nhywynycapel ger Caergybi, a gafodd ei ysgubo i ffwrdd o'r diwedd ym 1868.

Mae'r eglwys bresennol yn Sain Ffrêd, sy'n dal wedi’i chysegru iddi, yn ganoloesol i raddau helaeth, ac fe'i hadferwyd ym 1868. Gellir gweld delwedd o'r nawddsant yn ffenestr orllewinol 1892, ochr yn ochr ag un arall o Ddewi Sant.

Rhoddwyd y gyfres o chwe ffenestr ar furiau gogleddol a deheuol yr eglwys fel cofeb i William Edwardes, pedwerydd barwn Kensington, a'i fab William, pumed barwn Kensington. Prynodd y pumed barwn Gastell Sain Ffrêd, sydd i’w weld o'r fynwent, ym 1899. Mae croesau mawr yn y fynwent yn nodi beddau'r teulu, gyda'r mwyaf ohonynt yn coffáu'r pedwerydd barwn a'i wraig, Grace Elizabeth Johnstone-Douglas, Arglwyddes Kensington, a fu farw ym 1910. Darparodd hi, ynghyd â'i merched, ffigwr o’r Santes Ffraid ar gyfer ffenestr ddwyreiniol Eglwys y Santes Catrin, Aberdaugleddau. Yn anarferol, cafodd pob un o'r pum ffigur a wnaed ar gyfer y ffenestr eu rhoi gan roddwyr gwahanol.

Adeiladwyd Capel y Santes Non gerllaw’r capel canoloesol adfeiliedig uwchben y clogwyni ar arfordir gogleddol Bae Sain Ffrêd ym 1934, yn agos i Dyddewi. Mae Ffraid wedi’i chynnwys ymhlith y pedwar sant a gomisiynwyd ar gyfer ffenestri ar ochr ogleddol a deheuol yr eglwys, gyda Dewi Sant, Brynach Sant a’r Santes Gwenfrewi. Dangosir Ffraid yn dal pysgod – brwyniaid – roedd hi wedi’u creu o frwyn yn ôl traddodiad o'r ddeuddegfed ganrif a geir ym Muchedd y Santes Modwenna. Yn Sain Ffrêd mae’n cael ei dangos gyda lamp, gan gofio'r tân tragwyddol sy’n llosgi yng Nghildara, ac yn Aberdaugleddau fe'i dangosir gyda buwch, gan ei bod yn arfer corddi llaeth a gwneud menyn i'w roi i'r tlodion.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw