Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Ceir llawer o draddodiadau ynglŷn â seintiau yn croesi'r môr rhwng Iwerddon a Chymru. Un sant Gwyddelig oedd â chysylltiadau agos â Chymru oedd Aidan o Ferns, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Madog.

Stori
Enw un o ddisgyblion Dewi Sant yn hanes bywyd Dewi yn Lladin yw sanctus Aidanus. Yn ôl y testun, a ysgrifennwyd yn hwyr yn yr unfed ganrif ar ddeg gan Rhygyfarch ap Sulien yn ei sgriptoriwm yn Llanbadarn Fawr, gadawodd Aidan fynachlog Dewi a theithio i Iwerddon lle sefydlodd fynachlog yn Ferns.

Sonnir am sawl gwyrth sy’n gysylltiedig â Sant Aidan yn y testun, ac ymhelaethir ar y rhain mewn testun Lladin arall o ddyddiad tebyg oedd yn hysbys i'r llenor o Gymro, Rhygyfarch. Enw Buchedd Sant Aidan yn Lladin yw Vita S. Aidiui siue Maidoc, sy'n awgrymu bod y ddau enw yn cael eu defnyddio ar gyfer y sant, ac mae Rhygyfarch hefyd yn dweud mai Maidoc oedd enw Aidan ers ei fabandod. Mae’r enwau wedi’u cysylltu drwy'r enw sylfaenol Aedd, a addaswyd gyda gwahanol ragddodiaid ac ôl-ddodiaid yn y Gymraeg a'r Wyddeleg i roi Maedóc, Maodhog neu Moeog, yn ogystal ag Aidan.

Mae straeon yn y bucheddau Lladin yn ymwneud â rhagor o gysylltiadau rhwng y ddau sant, a cheir rhagor o draddodiadau ym Mucheddau Sant Aidan o'r ail ganrif ar bymtheg a ysgrifennwyd mewn Gwyddeleg. Mae'r straeon hyn yn cynnwys siwrneiau gwyrthiol ar draws y môr. Mae Aidan yn cerdded ar draws y môr pan fo cychod yn gwrthod ei gario, ac ar achlysur arall mae 'anifail gwyllt' di-enw yn dod ag Aidan yn ôl i Ferns o arfordir Cymru. Mae cloch a roddwyd i Aidan gan Ddewi yng Nghymru yn cael ei hadfer yn wyrthiol i Aidan ar ôl iddo anghofio dod â hi yn ôl i Iwerddon gydag ef.

Mae'n debyg bod safle mynachlog Aidan yn cael ei nodi gan weddillion Priordy Awstinaidd yn Ferns ac eglwys gadeiriol fach sy’n perthyn i Eglwys Iwerddon, sydd wedi'i chysegru i Sant Edan. Mae adfeilion yr adeilad canoloesol yn gorwedd i'r dwyrain o'r eglwys gadeiriol bresennol, sy'n dyddio'n bennaf i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae gan yr eglwys Gatholig fawr yn Ferns set helaeth o ffenestri gwydr lliw modern wedi’u gwneud gan Lua Breen ym 1976. Yn ogystal â gweithiau haniaethol sy'n mynegi siwrnai ffydd, mae un ffenestr yn dangos Sant Aidan mewn cwch yn ffarwelio â Dewi Sant, ac mae chwaer ffenestr yn dangos naill ai Aidan yn cael ei gyfarch gan frenin lleol neu Diarmait Mac Murchada, brenin Leinster o'r ddeuddegfed ganrif, yn rhoi tir ar gyfer y Priordy Awstinaidd. Fel nawddsant i esgobaeth Gatholig Ferns (y mae ei chadeirlan yn Enniscorthy hefyd wedi'i chysegru i Aidan), ceir delweddau o Aidan yn aml mewn eglwysi ar draws cornel ddeddwyreiniol Iwerddon.

Mae'n ymddangos bod Aidan yn fwy adnabyddus fel Madog yng Nghymru, ac mae eglwysi yn Sir Benfro wedi bod yn gysylltiedig ag ef. Gellir gweld delweddau o Madog mewn gwydr lliw modern mewn eglwysi yn Haroldston West, Talbenni a'r Garn, bob un wedi'u lleoli o amgylch Bae Sain Ffrêd i'r de o Dyddewi. Mae ffenestr a wnaed ym 1985 gan y cwmni gwydr lliw Cymreig Celtic Studios yn ei ddangos gyda Dewi Sant yn y Garn. Dangosir Madog gyda gwenyn, gan fod y gwaith pedair cyfrol ar seintiau Prydain gan Sabine Baring-Gould a John Fisher, a gyhoeddwyd rhwng 1907 a 1913, yn datgan y dylid ei bortreadu â chwch o wenyn. Er hynny, does dim byd yn y testunau Lladin canoloesol neu'r Wyddeleg o'r ail ganrif ar bymtheg yn cysylltu Aidan â gwenyn, ac ym Muchedd Dewi Modomnóc sy'n gysylltiedig â chadw gwenyn. Mae Modomnóc hefyd yn teithio i Iwerddon ac mae'r gwenyn yn ei ddilyn. Ar ôl croesi'r môr gydag ef sawl gwaith mae ef, a'r gwenyn, yn ymgartrefu'n barhaol yn Iwerddon.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw