Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Carthen gwely gwlân coch a gwyn wedi'i wehyddu yn Pandy Parc, Llandyfrydog. Roedd yn eiddo i Joseph ac Ann Jones a oedd yn byw yn Castell, Penysarn. Rydym yn credu ei fod wedi'i wehyddu tua 1890 - 1910.

Roedd gwŷdd cul gan Pandy Parc, felly roedd yr eitem hon wedi'i gwehyddu mewn dwy ran a gafodd eu pwytho gyda'i gilydd. Mae'n mesur 168cm x 215cm.

Fe'i rhoddwyd i gasgliad yr amgueddfa yma yn Oriel Môn gan Mair Morris yn 2010.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw