Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed William Jones (1840 - 1918) ym Modwrog, Ynys Môn a phrentisiwyd ef fel saer. Yn 1860 gadawodd gartref i ddod o hyd i waith yn Lerpwl. Flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl dod o hyd i lwyddiant yn y ddinas, prynodd Bootle Hall, ei ddymchwel ac yna adeiladu tai newydd ar y tir. Parhaodd gyda'r dull hwn ac yn fuan daeth yn ddyn cyfoethog. Ganed ei blant i gyd yn Lerpwl ond Cymraeg oedd eu hiaith gyntaf. Fe enwodd ei strydoedd ar ôl aelodau ei deulu a lleoedd Cymreig, er enghraifft, Eleanor Road, Monfa Road a Menai Road. Daeth Jones hefyd yn weithgar yng ngwleidyddiaeth y ddinas, ac yn 1886 etholwyd ef yn Faer Bootle. Ei brif breswylfa oedd tŷ o'r enw Monfa yn Bootle, ond ym 1889 prynodd Llwydiarth Fawr ger Llannerch-y-medd, ystâd fach wedi'i lleoli mewn tua 300 erw o dir fferm. Profodd y tir i fod yn gleiog ac yn wael ar gyfer ffermio, felly manteisiodd ar hyn a defnyddiodd y clai i wneud briciau. Allforiwyd y rhan fwyaf o'r cynnyrch o'i waith brics bach ar y trên i Lerpwl, i gyflenwi’r diwydiant adeiladu tai. Cynhyrchodd hefyd bibellau cerameg ar gyfer draenio tir, ynghyd ag eitemau bob dydd, gan gynnwys potiau blodau. Rhoddwyd yr enghraifft brin hon (sy’n mesur 15.2cm o uchder) i gasgliad Oriel Môn gan Mair a Rolant Williams yn 2014.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw