Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Capten Vivian Hewitt (1888-1965) yn beilot arloesol a anwyd yn Grimsby i deulu bragu cyfoethog. Ar ôl i'w dad farw'n ifanc dychwelodd ei fam gyda'i phlant i fyw yn ei phentref genedigol, Bodfari yn Sir Ddinbych. Yn ei ieuenctid dechreuodd Hewitt ymddiddori mewn hedfan ac adeiladodd gleider heb bŵer iddo hedfan ar dir eu tŷ. Arweiniodd ei ddiddordeb mewn hedfan iddo ddod yn un o’r bobl gyntaf yn y DU i gael trwydded beilot. Ar y 26ain o Ebrill 1912 hedfanodd awyren fach adain sengl o'r Rhyl i Ddulyn; un o'r hediadau hiraf ar y pryd a chyflawniad enfawr yn hanes hedfan. Cofrestrodd ar gyfer gwasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod yn beilot prawf ar gyfer y Morlys. Ar ôl y rhyfel rhoddodd y gorau i hedfan a symudodd i Ynys Môn, gan brynu Bryn Aber yn Cemlyn. Yno y llwyddodd i gyflawni ei angerdd am adareg, gan greu un o’r casgliadau preifat mwyaf y byd o grwyn ac wyau adar prin. Hefyd, datblygodd noddfa bywyd gwyllt sylweddol, gan greu cysgod a chynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o fflora a ffawna. Ni phriododd erioed ond bu’n byw gyda’i gyd-wraig cadw tŷ Mrs Parry am nifer o flynyddoedd. Mae'r portread olew hwn, gan arlunydd anhysbys, o Vivian Parry, mab Mrs Parry, a wasanaethodd gyda'r RAF fel gynnwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Lladdwyd ef wrth wasanaethu ei wlad ym 1942 pan gafodd ei awyren Wellington ei ddymchwel gan dân y gelyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw