Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y gefnen yng Ngwarchodfa Natur Celmlyn fel ag yr oedd yn y nawdegau cynnar, gyda'r amrywiol adar a arferai nythu arni.

Mae'r gefnen yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer y gwenoliaid môr sy'n heidio yno o amrywiol rannau o Affrica bob blwyddyn. . Mae'r warchodfa yn denu'r gwenoliaid môr oherwydd y gefnen o ro sylweddol sy'n ámgau lagwn ac ynysoedd isel. Dros y blynyddoedd, mae'r gwenoliaid môr wedi bridio ar yr ynys hon, ond mae Ben yn cofio gwenoliaid môr ac adar y glannau eraill yn bridio ar y gefnen ei hun. Mae'r gefnen wedi newid ei siap a'i safle dros y blynyddoedd y bu'n ymweld â'r warchodfa ac yn gweithio yno, a hynny, mae'n debyg oherwydd bod tarddiad stormydd y gaeaf yn newid, yn ogystal â pha mor gryf ydynt. Erbyn hyn mae'r gefnen yn nes at yr ynys fridio ac yn fwy serth, gan ei wneud arferion bridio yr holl adar sy'n defnyddio'r ardal ychydig yn fwy problematig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw