arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Newidiadau yn y gefnen ym Mae Cemlyn

Eitemau yn y stori hwn

Natur gyfnewidiol y gefnen ro ym Mae Cemlyn

  • 50
  • login to save

Newidiadau yn y gefnen yng Ngwarchodfa Natur...

  • 58
  • login to save
Mae gwarchodfa natur Cemlyn yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru ar gyfer y niferoedd mawr o fôr-wenoliaid sy'n dod yno i fridio o wahanol rannau o Affrica bob blwyddyn.

Mae'r warchodfa yn denu'r môr-wenoliaid oherwydd y gefnen ro fawr sy'n cau mewn lagŵn dŵr lled hallt y tu ôl iddo a'r ynysoedd isel. Mae môr-wenoliaid wedi bridio ar yr ynysoedd hyn dros y blynyddoedd, ond mae Ben yn cofio môr-wenoliaid ac adar y glannau eraill yn bridio ar y gefnen ei hun. Mae'r gefnen wedi newid yn ei siâp a'i safle dros y blynyddoedd y bu'n gweithio yn y warchodfa ac yn ymweld â hi, a hynny, mae'n debyg oherwydd y newid yn nharddle a chryfder stormydd y gaeaf.

Mae'r gefnen erbyn hyn yn nes at yr ynysoedd lle mae'r adar yn bridio ac mae'n fwy serth o ran siâp gan ei gwneud hi ychydig yn fwy problemus i'r adar ei defnyddio yn y tymor bridio.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw