Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ar ddydd Llun, 16eg o Dachwedd 2009, adroddwyd bod y maen hir ger Llanfechell wedi disgyn. Archwiliodd Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd y safle a dechreuwyd gwaith i gloddio'r twll y garreg ac ail-godi'r maen hir.

Mae meini hirion yn gymharol gyffredin ym Môn a gogledd Cymru ond mae eu pwrpas yn dal i fod yn ddirgelwch. Mae rhai cerrig wedi eu cloddio, megis y garreg a geir o dan y twmpath ym Mhedd Branwen, wedi'u dyddio i'r cyfnod Neolithig Cynnar (tua 4000-3000 CCC). Mae eraill yn gysylltiedig ag Oes yr Efydd (1700 - 700 CCC).
Ychydig iawn o arteffactau daeth o'r cloddiad hwn, ond o ddiddordeb oedd presenoldeb carreg wedi'i engrafio â marc cafn-nod a chylch oedd wedi'i ddefnyddio'n amlwg fel carreg pacio, a sydd nawr yng ngofal Oriel Môn.

Mae nifer o farciau cafn-nod a chylch wedi cael eu darganfod ar henebion cynhanesyddol, gan gynnwys Tŷ Newydd Cromlech, ger Llanfaelog ac ar gerrig brig mewn lleoliadau amlwg. Mae'r marciau ar y garreg arbennig hon yn eithaf bras, yn enwedig o'i gymharu â'r cerrig patrwm ym Marclodiad y Gawres. Mae’r garreg hon hefyd yn cynnwys marc cwpan hir, y credir iddo fod yn ddau farc cwpan wedi’u huno gyda'i gilydd.

Ar ddiwedd y cloddiad, ail-godwyd y maen hir 2.4 metr o uchder, sy'n pwyso 4.5 tunnell, yn ei leoliad gwreiddiol.
Mae marciau cafn-nod a chylch cynhanesyddol wedi'u engrafio yng Nghymru yn eithriadol o brin, gyda dim ond un arall ar wyneb uchaf beddrod Neolithig yn Sir Benfro. Yr hyn sy'n gwneud carreg Llanfechell yn arbennig, yw’r tebygrwydd ei fod wedi bod yn rhan o heneb arall, cyn cael ei hail ddefnyddio fel carreg pacio. Efallai iddi gynrychioli tamed o faen capan oedd yn perthyn i gromlech neu siambr claddu sydd wedi hen ddiflannu.

Rhoddwyd y garreg, sy’n mesur 57cm x 54cm x 17cm, i gasgliad Oriel Môn gan Yr Athro Robin Grove-White.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a'r Athro George Nash.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw