Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y DU oedd y wlad gyntaf i gyflwyno rhaglen ynni niwclear sifil, gan ddechrau gyda Calder Hall yn Windscale yn 1956. Yn fuan, cyflwynodd Llywodraeth Prydain raglen helaeth o ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear, gyda Wylfa yn dechrau cynhyrchu trydan yn 1971.

Ymunodd Roy Dean â'r tîm yn Wylfa ym 1967, dair blynedd ar ôl i'r gwaith ddechrau ar y safle. Gweithiodd ei ffordd i fyny'r rhengoedd, gan ddod yn ddirprwy uwcharolygydd yr orsaf. Ar ei ymddeoliad yn 1989, cyflwynwyd y plac model coffaol hwn i Dean, a wnaed gan y peirianwyr yng ngweithdy’r orsaf.

Daeth cynhyrchiant trydan i ben yn Wylfa yn 2015, pan gaewyd yr ail o’r ddau adweithydd niwclear.

Rhoddwyd yn garedig i gasgliad amgueddfa Oriel Môn gan fab Roy Dean, Dr Jonathan Dean.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw