Stori'r FALABA
Cafodd y FALABA ei suddo gan long danfor Almaenig ar 28 Mawrth 1915, rhyw 38 milltir i’r gorllewin o’r Smalls, Sir Benfro, ar ei ffordd o Lerpwl i Sierra Leone. Rhoddodd criw'r llong danfor rybudd i’r 280 o deithwyr a chriw ddianc ar y badau achub, ond cyn y gallent wneud hynny fe gafodd torpido ei danio, a suddodd y llong bron ar unwaith.
Lladdwyd 104 o deithwyr a chriw gan y ffrwydrad, drwy foddi, neu o hypothermia yn y dŵr rhewllyd. Hon oedd y llong deithwyr ddiarfau gyntaf yr ymosodwyd arni yn y rhyfel, ac yn dilyn y trychineb cafodd y golygfeydd enbyd a hanesion dirdynnol y tystion mewn cwest yn Aberdaugleddau sylw mawr ym mhapurau newydd y byd.